Enghraifft o ffordd o fynd ati i wneud Ymchwiliad Unigol

Mae'r amryw bwyntiau a wnaed gan y Prif Safonwr yn cael eu hamlygu mewn Ymchwiliad Unigol a gyflwynwyd gan fyfyriwr o Goleg Catholig Dewi Sant ar gyfer arholiadau Lefel 3 yn ddiweddar (2005).

Y teitl oedd:
A fydd Canolfan y Mileniwm yn safle'r un mor fawreddog â Chanolfan Opera Sydney?

  • Gallai hwn fod wedi bod yn ddim ond darn disgrifiadol o waith, ond trwy ganolbwyntio ar fater penodol daw'n haws ei drin ac yn fwy addas i'w ddadansoddi'n drylwyr.

Mae'r cymariaethau a'r cyferbyniadau'n rhedeg trwy'r ddogfen gyfan, wedi eu cysylltu'n aml â chyflwyniad gweledol o'r data. Er enghraifft,

Nid lleoliad yr adeilad yw'r unig fater i'w ystyried. Mae nifer y seddau yn y ddau leoliad yn eitha tebyg (gweler y graff isod). Mae yna lawer o ganolfannau eraill o fewn 1000 o filltiroedd i Ganolfan y Mileniwm, ond nid oes gan Dŷ Opera Sydney lawer o gystadleuaeth.

Canolfan y Mileniwm Tŷ Opera Sydney
1896 2679

Graff lleoliad

Mae hygyrchedd yn ffactor arall sy'n bwysig i leoliad. Mae Sydney'n rhan fach o wlad fawr. Fodd bynnag, mae'r maes awyr yn eich cysylltu â'r rhan fwyaf o wledydd y byd yn ogystal â mannau o fewn y wlad. Mae Caerdydd, ar y llaw arall, yn ddinas fawr mewn gwlad fach, ac er y gallwch deithio i Ewrop yn y car, nid yw'r maes awyr rhyngwladol yn eich cysylltu â chymaint o fannau, sy'n golygu taith hir yn y car neu ffwdan yn trosglwyddo o un awyren i'r llall cyn cyrraedd pen eich taith.

Yn fy ymchwil, gwelais hefyd fod meysydd parcio yn fater pwysig i lawer o bobl. Mae gan Dŷ Opera Sydney faes parcio tanddaearol arbennig ar ei gyfer. Ar y llaw arall, dim ond llond llaw o feysydd parcio sydd o fewn cyrraedd i Ganolfan y Mileniwm, a'r rheiny'n feysydd parcio talu ac arddangos neu feysydd sydd ar gael am gyfnod penodol o amser yn unig.

Nid yw Gavin, o Gaerdydd, yn hapus ynglyn â'r tagfeydd y mae'r Ganolfan yn eu hachosi:

Mae'n edrych fel armadilo ac mae'n dod â Bae Caerdydd i'w liniau bob tro y cynhelir digwyddiad yno. Pan gafodd ei hadeiladu, penderfynwyd peidio ag adeiladu maes parcio i ymdopi â'r traffig ychwanegol a oedd yn anochel; anochel am fod cludiant cyhoeddus i'r Bae yn wael.

Mae hefyd yn ymddangos fod yna broblem hygyrchedd yn y Ganolfan ei hun. Meddai Richard o Benarth:

Mae'r lifftiau'n dda iawn - llawer yn well na Neuadd Dewi Sant, ond does dim grisiau symudol! Os na allwch chi gyrraedd y lifftiau oherwydd yr holl bobl, dylai'r cynllunydd fod wedi cerdded i fyny'r grisiau i'r cylch uchaf ddwywaith neu dair. Mae rhywun yn mynd i gael trawiad ar y galon rwy'n siwr!

Un ffactor pwysig na all yr adeiladau ei newid yw'r tywydd. Mae Sydney'n enwog am haul gydol y flwyddyn (mae'r gaeafau'n oer ond yn sych), ond gall lawio a theimlo'n oer yng Nghaerdydd drwy'r flwyddyn gron! (Gweler y graffiau isod. Mae'r graff cyntaf yn dangos tymheredd misoedd y flwyddyn; mae'r ail graff yn dangos tymheredd y tymhorau.) Yn anochel, mae'r tywydd yn effeithio ar nifer y bobl sy'n ymweld â'r Ganolfan ac, yn ei dro, bydd hyn yn cael effaith ar statws Canolfan y Mileniwm yng Nghymru, y DU a'r Byd.

Y tymheredd ar gyfartaledd

  Caerdydd Sydney
Ionawr 5 23
Chwefror 4 23
Mawrth 6 22
Ebrill 8 19
Mai 11 16
Mehefin 13 13
Gorffennaf 16 12
Awst 16 13
Medi 13 16
Hydref 11 16
Tachwedd 7 19
Rhagfyr 6 22

Graff lleoliad

Yn ddiddorol, ni fodlonodd y myfyriwr ar gynhyrchu tystiolaeth a gafwyd oddi ar y we neu gyfeirlyfrau'n unig. Cynhyrchodd holiadur a gallodd fanteisio ar wybodaeth wreiddiol, uniongyrchol i'w chyflwyno'n weledol ac yn fwy pwysig, a'i gwnäi hi'n bosib iddi ddod i gasgliadau ynglyҐn ä'r hyn roedd yr Ymchwiliad yn ceisio'i ddarganfod. Er enghraifft:

Yr Holiadur

Fel rhan o'm hymchwiliad, lluniais holiadur. Mi ddes i o hyd i ddeg unigolyn oedd wedi bod i'r ddau leoliad a holais rai cwestiynau syml iddyn nhw am eu hymweliad a'u barn gyffredinol am y ddau leoliad. Gallwch weld fy nghanlyniadau ar y tudalennau canlynol. Mae fy nghanlyniadau'n cefnogi'r hyn a nodwyd yn yr ymchwiliad. Mae cwestiwn un yn dangos bod pobl yn ymweld â Thŷ Opera Sydney am y pethau eraill sydd yno, am fod ganddo enw da ac am eu bod ar wyliau, yn hytrach nag am eu bod yn byw gerllaw, sef yr ateb a roddodd y rhan fwyaf o bobl oedd wedi ymweld â Chanolfan y Mileniwm.

Mae cwestiwn dau'n cefnogi'r ffaith fod yna fwy o gludiant cyhoeddus yn arwain at Dŷ Opera Sydney na Chanolfan y Mileniwm. Teithiodd y rhan fwyaf o bobl i'r Ganolfan honno mewn car.

Mae cwestiynau tri a phedwar yn dangos fod y bobl a deithiodd yn y car yn gallu parcio'n gyflym ac yn agos (ar y safle) yn Sydney, ond yng Nghymru roedd meysydd parcio'n fwy prin ac, yn y rhan fwyaf o achosion, roedd yn rhaid cerdded ychydig cyn cyrraedd y Ganolfan ei hun.

Mae'r atebion i gwestiwn pump yn dangos fod y tywydd yn fwy cynnes yn Sydney nag yng Nghaerdydd.

Mae cwestiwn chwech yn dangos fod Tŷ Opera Sydney'n cael ei ystyried yn fwy mawreddog na Chanolfan y Mileniwm. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, gellid dadlau nad yw Canolfan y Mileniwm wedi bod ar agor yn ddigon hir i ennill enw da.

Enghraifft o'r sgiliau a'r technegau a ddefnyddir i ddadansoddi'r canlyniadau

1. Beth 'ch denodd i'r lleoliad?

  Caerdydd Sydney
Y tywydd 0 5
Roeddwn i ar fy ngwyliau 2 8
Mae fy nheulu'n byw gerllaw 21 27
Roedd atyniadau eraill gerllaw 1 7
Rwy'n byw gerllaw 6 0
Yr enw da sydd ganddo 2 8
Arall 0 0

7. A fyddech chi'n ymweld â'r ddinas pe na byddai'r lleoliad yno?

  Caerdydd Sydney
Byddem yn sicr 0 6
Byddem 6 2
Efallai 2 1
Na fyddem 1 0
Ddim o gwbl 0 0
Ddim yn siwr 1 1

Graff lleoliad

Casgliad a Gwerthusiad

Rydw i'n lwcus am fy mod i wedi ymweld â Chanolfan y Mileniwm a Thŷ Opera Sydney. O'r  yn a welais a'r naws a deimlais, mae gan Ganolfan y Mileniwm dipyn o ffordd i fynd cyn iddi greu'r argraff y mae'r Tŷ Opera wedi ei chreu. Wrth gwrs, sefydlwyd y Tŷ Opera 30 mlynedd yn ôl ond mae yna rywbeth arbennig amdano, ac mae hwnnw'n dal i fodoli heddiw. Hefyd, mae wedi ei leoli mewn ardal boblogaidd iawn i dwristiaid ac mae'n hygyrch dros ben, gyda maes parcio cyfleus a chludiant cyhoeddus rheolaidd yn cludo pobl i'r lleoliad. Y fantais arall sydd gan Sydney dros Gaerdydd yw'r apêl o fod wedi ei leoli lle mae pobl am fynd ar eu gwyliau ac ymweld â'r lle! Mae'r tywydd braf yn Awstralia'n denu miliynau o dwristiaid bob blwyddyn, ond mae'r glaw yng Nghaerdydd yn annog pobl i gadw draw!

I ateb y cwestiwn ''A fydd Canolfan y Mileniwm yn safle mor fawreddog  Thŷ Opera Sydney?", rwy'n credu mai amser a ddengys! Ar yr olwg gyntaf, ac o ystyried y llwyddiant mae wedi ei gael hyd yn hyn, mae'n ymddangos yn glir na fydd y Ganolfan yn mwynhau'r un statws â Thŷ Opera Sydney. Fodd bynnag, am fy mod i wedi fy ngeni a'm magu yng Nghymru, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r Ganolfan a gobeithio y bydd yn llwyddo i roi hwb mawr i Gymru.

Gwerthusiad

Ers cychwyn yr ymchwiliad hwn, rydw i wedi ymweld â'r ddau leoliad a chael y cyfle i gasglu gwybodaeth ac adnoddau i'm cynorthwyo i gwblhau'r prosiect. Am fy mod i'n byw yng Nghaerdydd, ni chefais lawer o drafferth yn cael gafael ar y ffigurau oedd eu hangen i gwblhau'r graffiau ac ochr ystadegol y prosiect. Fodd bynnag, roedd hi dipyn anoddach dod o hyd i'r un ffigurau ar gyfer Sydney, ac o ganlyniad, ni lwyddais i gasglu'r holl wybodaeth roeddwn i am ei chael.

Roedd y prosiect yn ddiddorol dros ben ac rydw i wedi cael golwg ar rai o'r ffactorau sydd angen eu hystyried wrth gychwyn ar brosiect mor fawr ag adeiladu canolfan gelfyddydau. Wrth gyflawni'r prosiect, roedd y casgliadau'n ymddangos yn weddol glir ond daeth ambell beth i'r amlwg wrth i mi siarad â mwy o bobl am y sefyllfa.

*Dyfyniadau o:
http://www3.thny.bbc.co.uk/wales/southeast/yoursay/topics/wmc.shtml

Llyfryddiaeth


www.12travel.com/uk/wales/southwales/cardiff.html
www.backpackersnet.com/travel%20guides/australia/sydney/population/population_home.htm [dim ar gael bellach]l
www.guardian.co.uk/print/0,3858,4131034-105806,00.html
http://www.cardiff.gov.uk/mainframes/welsh_info.htm - ystadegau twristiaeth - ffigurau ymwelwyr 2003[Dim ar gael bellach]
www.anzac.com
www.cardiff.gov.uk/cardiff/Cardiff_Photos_99/Barrage_cym.htm [Dim ar gael bellach]

Termau a Amodau