Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

HMS


Gwahoddir eich canolfan i anfon un cynrychiolydd i ddiwrnod  hyfforddi sydd wedi'i drefnu ar gyfer y canolfannau hynny a  fydd yn cychwyn cyflwyno'r cymhwyster ym mis Medi 2008.

Cynhelir yr hyfforddiant yng nghanolbarth, gogledd a de  Cymru:

  • Canolbarth - yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod ar ddydd  Mawrth 1af Gorffennaf o 9.30 am i 3.30 pm.
  • Gogledd - yng Nghanolfan Busnes Conwy ar ddydd Mawrth 8fed  Gorffennaf o 9.30 am i 3.30 pm.
  • De - yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar  ddydd Gwener 11eg Gorffennaf o 9.30 am i 3.30 pm.

Pwrpas y dydd fydd trafod arfer da wrth gyflwyno'r craidd  Bac Cymreig, gan ganolbwyntio ar feysydd penodol megis yr Ymchwiliad Unigol, dyddiaduron myfyrwyr, sgiliau allweddol  ac addysg gysylltiedig â gwaith.

Ni thelir costau rhyddhau athrawon, teithio na chynhaliaeth  am y digwyddiad hwn.

Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn hysbysu Neil Owens yn  CBC os ydych yn gallu dod i'r HMS trwy anfon y manylion hyn ar  e-bost erbyn dydd Mercher 25ain Mehefin, 2008:

  • Y sesiwn rydych am ei fynychu
  • Enw'r Ganolfan
  • Rhif y Ganolfan
  • Cynrychiolydd y Ganolfan