Cywerthedd Opsiynol yng Nghymwyster Bagloriaeth Cymru

Rhaid i bob canolfan sydd wedi cofrestru ymgeiswyr am Fagloriaeth Cymru sichrau bod y Rhaglen Opsiynau a ddilynir gan yr ymgeiswyr yn cwrdd â'r gofynion cywerthedd ar gyfer y Diploma Bagloriaeth Cymru perthnasol.  

Y gofynion hyn yw:

  • Diploma Uwch: 2 safon Uwch graddau A-E, NVQ lefel 3, Tystysgrif CABAT Cenedlaethol (12 Uned) neu gywerth
  • Diploma Canolradd: 4 TGAU A*-C, NVQ lefel 2, Diploma CABAT Cyntaf (6 Uned) neu gywerth
  • Diploma Sylfaen: 4 TGAU D-G, NVQ lefel 1, Diploma Rhagarweiniol CABAT neu gywerth

I wirio a yw cymhwyster yn cwrdd â'r "cywerthedd" angenrheidiol dylai canolfannau fynd i'r cyswllt canlynol:
http://www.accreditedqualifications.org.uk/index.aspx

Bydd angen teitl llawn y cymhwyster neu'r  QAN (Rhif Achredu'r Cymhwyster).  Unwaith y nodir y cymhwyster perthnasol, defnyddir y ffigurau perfformiad sy'n berthnasol i'r trothwyon lefel 1, 2 neu 3 i bennu'r cywerthedd perthynol e.e. mae pedair TGAU yn gywerth i 80%.

Os na allwch ddod o hyd i ffigur perfformiad sy'n berthnasol i gymhwyster yna cysylltwch â Neil Owens  i gael eglurhad.

Anfonir y 'Proffil o'r Canlyniadau a Ragwelir yn yr Haf' (PRATS) i'r canolfannau ym mis Mawrth.  Mae'r wybodaeth a ddarperir yn bwysig iawn er mwyn helpu CBAC i agregu a dyfarnu'r canlyniadau cywir.  Gall methiant i ymateb olygu y bydd y canlyniadau anghywir yn cael eu cyhoeddi ar Awst 14eg (Diploma Uwch) ac Awst 21ain (Canolradd a Sylfaen).

Termau a Amodau