Ffurflenni

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru – ceisiadau am gymryd rhan wrth ei chyflwyno o flwyddyn academaidd 2010/11 ymlaen

Rydym yn ymestyn y cyfle i ddarparwyr dysgu gymryd rhan yng ngham nesaf y datblygiad. Rydym yn eich gwahodd i wneud cais am ymuno ag ail gyfnod y cyflwyno ar y lefel Sylfaen (yn yr oedran 14-19) a’r lefel Ganolradd mewn addysg cyn-16 a hynny o fis Medi 2010 ymlaen.

Mae croeso i geisiadau oddi wrth bawb sy’n darparu dysgu 14-19 oed yng Nghymru a dylent gael eu cyflwyno erbyn 6 Tachwedd 2009 fan bellaf. Ni fyddwn yn gallu ystyried unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.  

Mae angen ceisiadau oddi wrth:

D.S. Mae’n rhaid i unrhyw ganolfan sydd eisoes wedi’i chymeradwyo i addysgu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru i’w charfan gyfan roi gwybod inni am unrhyw gynnydd a ragwelir yn nifer eu carfan uwchlaw’r uchafswm y cytunwyd arno ar hyn o bryd.

Sylwch fod yna ffurflen gais a phroses ar wahân ar gyfer Consortia sydd am wneud cais i gymryd rhan wrth gyflwyno’r Prif Ddysgu ar gyfer Diplomau 14-19 a chymwysterau Project o fewn Bagloriaeth Cymru.

Dylai canolfannau sydd am wneud cais i gyflwyno Lefel Uwch a/neu Canolradd ôl-16 gyflwyno cais i CBAC.

Rhwydweithiau sy’n bwriadu cyflwyno CBC gyda Chymwysterau Prif Ddysgu o Fis Medi 2010

Mae'n ofynnol i rwydweithiau sy’n bwriadu cyflwyno CBC gyda Chymwysterau Prif Ddysgu o Fis Medi 2010 ddanfon ceisiadau cyn 6ed Tachwedd, 2009.