Adnoddau Addysgu > CA1 > Gwyddoniaeth > Prosesau bywyd a phethau byw > Bwystfilod Bach
Bwystfilod Bach
Adnodd sy'n cyflwyno’r bwystfilod bach (minibeasts) sydd i'w gweld o'n cwmpas.
Drwy ddefnyddio'r adnoddau yn y pecyn hwn bydd y disgyblion yn dysgu:

• am wahanol fathau o anifeiliaid yn eu cynefin

• y gellir dosbarthu anifeiliaid yn ôl tebygrwydd a gwahaniaethau gweladwy

Mae’r adnodd yn cynnwys pedwar adran

1. Mae'r gweithgaredd cyntaf yn rhoi cyfle i ddisgyblion greu trychfilyn a dysgu fod gan drychfilyn chwe choes.

2. Mae'r gweithgaredd hwn yn egluro ble, hwyrach, y gellir cael hyd i chwilod, a bod rhai yn ysyddion tra bod eraill yn gigysyddion.

3. Cylchred bywyd Pili-pala / Glöyn byw.

4. Sesiwn gloi. Ydy e / o'n drychfilyn? Categoreiddiwch yr anifail mini yn ôl nodweddion gweladwy
Gofynion meddalwedd
Adnoddau hefyd gyda'r tag..
BC | Llythrennedd
CA1 | Cymraeg Ail Iaith
AAA | Llythrennedd