Cemeg 1 Nanogwyddoniaeth
Mae’r PowerPoint hwn yn trafod Nanogwyddoniaeth o’r fanyleb Cemeg 1. Bydd y dysgwr yn:
(a) deall cysyniad nanometr a gwerthfawrogi bod nanogwyddoniaeth yn cynnwys astudio a defnyddio gronynnau o feintiau yn yr amrediad 1-100 nm.
(b) bod yn ymwybodol y gall lleihau maint gronynnau i'r nano-graddfa gynhyrchu priodweddau newydd mewn defnydd, a all arwain at feintiau newydd, e.e. y priodweddau gwrthfacteria, gwrthfirysol a gwrthffyngol sydd gan ronynnau arian maint nanometr a ddefnyddir mewn chwistrelli diheintio i lanhau ystafelloedd llawdriniaeth mewn ysbytai ac i araenu arwynebau mewnol oergelloedd.
(c) trafod y manteision, y peryglon a'r anfanteision posibl sy'n gysylltiedig â datblygiadau mewn nanogwyddoniaeth.
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
