Adnoddau Addysgu > CA4 > Gwyddoniaeth > Gwyddoniaeth CBAC > Bioleg > Bioleg 2 – Symudiad Sylweddau Trwy’r Gellbilen
Bioleg 2 – Symudiad Sylweddau Trwy’r Gellbilen

Mae’r PowerPoint hwn yn trafod sut MAE SYLWEDDAU YN DOD I MEWN I GELLOEDD AC YN GADAEL TRWY'R GELLBILEN o’r fanyleb Bioleg 2. Bydd y dysgwr yn:

(a) gwybod mai trylediad yw symudiad sylweddau i lawr graddiant crynodiad. Nid oes angen egni ar gyfer y broses a dim ond rhai sylweddau sy'n mynd trwy'r gellbilen yn y ffordd hon.

HAEN UWCH

(b) gwybod mai osmosis yw trylediad dwr trwy bilen athraidd ddetholus, o ranbarth gyda chrynodiad uchel o ddwr i ranbarth gyda chrynodiad isel o ddwr.

(c) cyflawni gwaith arbrofol gan ddefnyddio defnydd planhigol byw a thiwbin fiscin fel defnydd anfyw a gallu dehongli  canlyniadau arbrofol yn nhermau meintiau mandyllau'r bilen a'r gronynnau: mae maint y mandyllau yn ddigon mawr i alluogi moleciwlau dwr i fynd trwodd ond mae'n cyfyngu ar symudiad moleciwlau'r hydoddion.

(ch) deall cludiant actif fel proses y mae arni angen egni lle gall sylweddau fynd i mewn i gelloedd yn erbyn graddiant crynodiad.

Gofynion meddalwedd