Adnoddau Addysgu > CA4 > Gwyddoniaeth > Gwyddoniaeth CBAC > Cemeg > Cemeg 2 – Adeiledd Atomig
Cemeg 2 – Adeiledd Atomig

Mae’r PowerPoint hwn yn trafod ADEILEDD ATOMIG o’r fanyleb Cemeg 2. Bydd y dysgwr yn:

(a) gwybod bod masau cymharol protonau, niwtronau ac electronau a'u gwefrau trydanol cymharol fel y dangosir:

màs gwefr

proton 1 +1

niwtron 1 0

electron dibwys -1

(b) deall nad oes gwefr drydanol ar yr atom cyfan oherwydd bod nifer yr electronau yn yr orbitau (plisg) yn hafal i nifer y protonau yn y niwclews.

(c) gwybod bod gan bob atom o elfen arbennig yr un nifer o brotonau a bod gan atomau o elfennau gwahanol niferoedd gwahanol o brotonau.

(ch) deall y termau rhif atomig a rhif màs.

(d) defnyddio data a roddir yn y ffurf 11 23 Na i roi nifer y protonau, y niwtronau a'r electronau sy'n bresennol yn yr atom.

Gofynion meddalwedd