Wyneb yn Wyneb
Mae’r adnodd hwn yn darparu deunydd ar gyfer uned gyfan o waith. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd gydag ymweliad â’r Orielau Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Bwriad yr uned yw darparu’r offer er mwyn galluogi’r disgyblion i ddisgrifio, cymharu a dadansoddi paentiadau portreadol.
Rhoddir dau bortread o wahanol gyfnodau i’r disgyblion a chânt eu harwain drwy gyfres o weithgareddau a fydd yn dysgu elfennau o iaith weledol ac yn datblygu dealltwriaeth y disgyblion o gyd-destun paentio’r portreadau. Anogir y disgyblion i ffurfio barn resymegol ac i fynegi safbwyntiau ynglyn ag amrywiaeth o ddelweddau a fydd yn eu helpu i ddatblygu syniadau ar gyfer gwaith annibynnol

Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...