Asesiad dan reolaeth
Mae’r linciau i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i adnoddau NGfL Cymru yn darparu ffynhonnell o ddata eilaidd ar gyfer ymchwiliadau. Mae’r data yn cynnwys mynediad i lefelau afonydd amser real a chynlluniau rheoli llifogydd.
Mae’r gweithgareddau hyn yn defnyddio gwybodaeth am lifogydd a’r wybodaeth am lefelau afonydd a môr a ddarperir gan Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn sicrhau fod pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd yn cael gwybodaeth ac yn gallu penderfynu beth i’w wneud wrth i lefelau’r dŵr newid. Lleolir gorsafoedd monitro sy’n mesur lefelau afonydd, llynnoedd a dŵr daear ledled Lloegr a Chymru a chymerir mesuriadau yn electronig gan sensoriaid sydd wedyn yn eu hanfon yn awtomatig yn ôl i’r Asiantaeth.
