Ffrangeg : Gramadeg
Mae'r adnodd hwn yn rhoi cymorth ar gyfer dysgu ac ymarfer strwythurau iaith a gramadeg Ffrangeg. Mae’n addas ar gyfer disgyblion hyd lefel TGAU a chymwysterau eraill. Mae’r cynnwys yn ddiddorol ac wedi’i gyflwyno mewn ffordd ddeniadol a diddorol gan ddefnyddio gemau lle mae’n rhaid i’r myfyrwyr ddysgu’r iaith cyn gallu symud ymlaen. Hefyd, gall yr adnodd gynnal llythrennedd driphlyg gan bod modd toglo o Gymraeg i Saesneg a Ffrangeg ar unrhyw sgrin.
Mae pum parth i’w harchwilio a thair is-ran ym mhob un. Ym mhob is-ran mae’r cynnwys ar dri lefel, sy’n ysgogi’r dysgwyr i symud ymlaen drwy’r gramadeg a gyflwynir. Mae adran ‘Offer’ gynhwysfawr yn rhan o’r adnodd lle mae’r holl gynnwys wedi’i fapio a lle mae gwybodaeth ar gael ar lawrlwytho ac argraffu.
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
Adnoddau hefyd gyda'r tag..
