Adnoddau Addysgu > CA3 > Sbaeneg

Sbaeneg

Defnyddiau Gwers

Cronfa o hyd at 60 clip sain gyda gweithgareddau cysylltiedig ar gyfer y pynciau Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg (20 ym mhob iaith) i ddatblygu sgiliau llefaredd disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3. (Cawsant eu datblygu gan Tinopolis a’u noddi gan Lywodraeth Cymru)
Mae’r uned hon yn cyflwyno disgyblion i’r eirfa a gysylltir ag Addunedau Blwyddyn Newydd a’r defnydd o ‘IR’ i ffurfio’r amser dyfodol (GCaD Cymru)
Yn yr uned hon, anogir disgyblion i estyn brawddegau, ffurfio cwestiynau a defnyddio brawddegau negyddol, o fewn thema chwaraeon ac ymarfer. (GCaD Cymru)
Mae’r uned hon yn cyflwyno disgyblion i strwythurau Almaeneg a ddefnyddir i roddi cyngor ar gadw’n iach, gyda’r ffocws ar y defnydd o’r berfenw a’r gorchmynnol (GCaD Cymru)
Yn yr uned hon, gall y disgyblion adolygu bwyd a diod, penderfynu ar beth sy'n iach neu ddim yn iach, ac yna ddisgrifio'u harferion bwyta eu hunain (GCaD Cymru)
A series of interactive activities and games to introduce sports vocabulary and language patterns to pupils who are beginning to learn Spanish (NGFL Cymru & AWEN)
Cyflwyniad i eirfa yr hyn y mae Sbaenwyr ifanc yn gwario eu harian arno. Bydd disgyblion yn dysgu sut i siarad am eu harian poced neu gyflog a sut maent yn ei wario gan gymharu ag eraill.(GCaD Cymru)
Cyflwyniad i eirfa ystafelloedd yn y ty. Bydd disgyblion yn dysgu sut i ddisgrifio eu cartrefi eu hunain yn cynnwys eu lleoliad, gan ymarfer ffurfiau gwrywaidd a benywaidd ansoddeiriau a berfau rheolaidd –IR yn yr amser presennol (e.e. vivir)(GCaD Cymru)
Cyflwyniad i eirfa llefydd mewn tref. Bydd disgyblion yn dysgu sut i ddisgrifio ei tref eu hunain a mynegi barn, ymarfer ffurfiau gwrywaidd, benywaidd a lluosog ansoddeiriau a dysgu sut i ffurfio lluosog enwau.(GCaD Cymru)
Cyflwyniad i enwau gwledydd a chyfandiroedd y byd ble mae Sbaeneg yn iaith bwysig neu’n iaith swyddogol. Bydd disgyblion yn dysgu sut i gyfarch pobl sy’n siarad Sbaeneg, dweud eu henw a ble maent yn byw a dysgu am ansoddeiriau cenedl.(GCaD Cymru)
Cyflwyniad i eirfa diwrnodau’r wythnos yn Sbaeneg. Bydd disgyblion yn ysgrifennu am weithgareddau maent yn eu gwneud yn ystod yr wythnos a dysgu sut i ddefnyddio berfau yn yr amser presennol.(GCaD Cymru)
Cyflwyniad i eirfa a strwythurau ar gyfer mynegi barn yn syml. Bydd y disgyblion yn ysgrifennu a siarad am eu hoff / cas gweithgareddau hamdden a dysgu defnyddio berfau sy’n newid yn y bôn a berfau amhersonol.(GCaD Cymru)
Cyfres o 5 cân draddodiadol Sbaeneg i blant i’w canu gyda dysgwyr ifanc. Mae’r gyfres yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol sydd yn focysu ar elfen o iaith mewn bob cân. (Wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r Consejería de Educación)
Cyflwyniad i eirfa llefydd mewn tref. Bydd disgyblion yn dysgu sut i ddisgrifio ei tref eu hunain a mynegi barn, ymarfer ffurfiau gwrywaidd, benywaidd a lluosog ansoddeiriau a dysgu sut i ffurfio lluosog enwau.(GCaD Cymru)
The aim of this unit of work is for pupils to practise telling the time in Spanish, to talk about their daily routine and using regular reflexive verbs.
Cyflwyniadau Powerpoint, taflenni gwaith a gemau rhyngweithiol ar y topig Fy Hunain a Fy Nheulu. Mae’n cynnwys ymarferion chwarae rhan, gwrando, darllen, ysgrifennu ac ymarferion gramadeg.(Ysgolion Cyfun Y Preseli, Llanhari a Gwynllyw)
Cyflwyniadau Powerpoint, taflenni gwaith a gemau rhyngweithiol ar y topig Ysgol. Mae’n cynnwys ymarferion chwarae rhan, gwrando, darllen, ysgrifennu ac ymarferion gramadeg (Ysgolion Cyfun Y Preseli, Llanhari a Gwynllyw)
Cyfres o weithgareddau rhyngweithiol sy’n helpu i ddrilio geirfa Sbaeneg newydd (Stephen Prescott – Dinas Bran – Sir Ddinbych)
10 poster er mwyn helpu dysgwyr wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd tramor modern, Cymraeg a Saesneg ac ennyn gwell dealltwriaeth o sut mae ieithoedd yn gweithio (APADGOS)
Cyfres o weithgareddau ymchwiliol a gemau lliwgar rhyngweithiol gan y BBC Cymru