Cystadleuaeth Mathemateg y Gymdeithas Wyddonol


Sefydlwyd y gystadleuaeth hon ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yn 1983 dan nawdd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.  Mae’n derbyn cymorth cyllidol gan Gronfa Goffa Ben Thomas.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion Blwyddyn 8 a bydd dros fil yn cystadlu yn flynyddol.  Mae pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif a dyfernir gwobrau i’r rhai sydd wedi cyrraedd safon uchel iawn.  Gyda chydweithrediad Urdd Gobaith Cymru cyflwynir y gwobrau yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

   At her tu hwnt i eiriau, - yn gynnes
        â gwên y dof innau,
   y mae hi'n her i'w mwynhau . . .
   yr wyf yn caru rhifau.

   Tudur Dylan Jones

I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth anfonwch air at:  

Yr Athro Emeritws Gareth Roberts, Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor.

e-bost: h.g.f.roberts@bangor.ac.uk

Enillwyr eleni

Gellir blasu natur y gystadleuaeth o’r tasgau ar y papurau diweddaraf. Cliciwch ar flwyddyn i agor papur a gallwch, os ydych yn dymuno ei gadw ar eich cyfrifiadur chi.