Gwyddoniaeth Adnoddau CA3 : Deunydd Cefnogi
Dewis o ddeunyddiau sy’n cefnogi’r cysyniadau a gyflwynir yng nghwrs newydd Gwyddoniaeth CA3 ar sail gofynion y Cwricwlwm Gwyddoniaeth Cenedlaethol yw’r adnodd hwn.
Maen nhw’n cynnwys cyflwyniadau, gweithgareddau, tasgau a ellir eu hargraffu a gemau yn ogystal â nodiadau athrawon a fydd yn ysgogi trafodaeth ac yn ymestyn y dysgu. Mae’r deunydd yn caniatáu i ‘r disgyblion ymchwilio, trafod a darganfod gwyddoniaeth mewn amryw o weithgareddau dyddiol gan feithrin chwilfrydedd sy’n mynd tu hwnt i’r dull traddodiadol ac weithiau haearnaidd o ddysgu Gwyddoniaeth. Mae yna syniadau am arbrofion yn defnyddio defnyddiau bob dydd yn ogystal â gwybodaeth sy’n mynd a’r disgyblion i’r gofod. Mae’r gemau dosbarth rhyngweithiol wedi’u paratoi i helpu gyda chyflwyno gwyddoniaeth mewn ffordd gyffrous a deniadol.
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
Adnoddau hefyd gyda'r tag..
