Sgiliau Meddwl a Chelf Portreadau
‘Pobl ‘ yw thema’r pecyn hwn sy’n cynnwys templedi sgiliau meddwl a phrofiadau dysgu creadigol yn seiliedig ar luniau penodol.
Ceir cysylltiadau gyda rhannau eraill y cwricwlwm hefyd.
Ceir cysylltiadau gyda rhannau eraill y cwricwlwm hefyd.
Mae’r prosiect yn defnyddio lluniau sydd eisoes ar GCaD Cymru ac yn gymorth i athrawon i;
- ymestyn eu cynllunio ar y thema ‘Pobl’,
- fanteisio ar gywreinrwydd naturiol y dysgwyr,
- gynnig cyfleoedd i ddysgwyr rannu syniadau a chynllunio eu dysgu eu hunain,
- greu ystod o brofiadau dysgu sy’n annog meddylwyr adfyfyriol,
- ddefnyddio’r themâu i ddysgu am ymateb emosiynol y dysgwyr ac edrych ar faterion ehangach sy’n ymwneud a’r teulu, yr ysgol a’r gymuned,
- ganiatáu dysgwyr i archwilio ac arbrofi gydag amrediad o wybodaeth ac adnoddau i ddatblygu ac i adfyfyrio am eiu gweithgareddau creadigol,
- annog dysgwyr i dderbyn syniadau newydd.
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
Adnoddau hefyd gyda'r tag..
