Adnoddau Addysgu > CA2 > Cerddoriaeth > Perfformio > Offerynnol > Ensembles Dosbarth Cynradd - Cyfrol 1
Ensembles Dosbarth Cynradd - Cyfrol 1
Dyma gyfres o ‘10 Ensemble Dosbarth’ adnabyddus ar gyfer eu defnyddio yn bennaf yng Nghyfnod Allweddol 2.
Mae’r Rhannau yn amrywio o rhai Piano (dwy law) i Rhannau offerynnau taro di-draw. Ceir hefyd geiriau ar gyfer canu fel dosbarth neu wrth chwarae’r offerynnau. Ceir deg darn i’w perfformio yn y pecyn, ar ffurf trefniannau hyblyg, ynghyd â chyfeiliannau parod, fel bod modd i’r addysgwyr gynnig cymorth yn ôl y gofyn i aelodau’r dosbarth. Darperir nodiant ar ffurf Hen Nodiant, ac maent ar gael ar ffurf Scorch, MIDI a PDF. Mae natur ailadroddol nifer o’r Rhannau yn caniatáu cynnig mynediad hwylus i amrediad eang o alluoedd ac anghenion, wrth feithrin datblygiad y cof cerddorol.
