Cyflwyniad i’r Fenter Addysgeg Genedlaethol
Fel rhan o fenter ehangach ar ddatblygu addysgeg dysgu ac addysgu i Gymru, mae’n bleser gennyf gyflwyno’r fenter addysgeg genedlaethol ar wefan GCaD (Cymru).
Nod y fenter addysgeg yw gwella'r canlyniadau i ddysgwyr drwy wella sgiliau, gwybodaeth ac arferion addysgeg yr ymarferwyr.
Cyflawnir hyn drwy:
- Dathlu gwaith ymarferwyr a lleoliadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol amlwg ar ganlyniadau disgyblion, gan godi proffil proffesiynol ymarferwyr, a datblygu rhwydweithiau ar gyfer rhannu arfer da a syniadau ar draws ffiniau traddodiadol;
- Dangos y gall ymarferwyr ddysgu'r sgiliau, y wybodaeth a'r arfer y mae tystiolaeth yn dangos y gallant wella canlyniadau i ddysgwyr, mewn ffordd systematig;
- Trawsnewid canolbwynt addysg yng Nghymru o un sy'n seiliedig ar broffesiynoldeb unigol, i broffesiynoldeb cyfunol - lle daw'n arferol i ymarferwyr roi cymorth i ddatblygu eraill a lle gofynnir am gymorth a lle y caiff ei groesawu;
- Creu disgwyliad y bydd y fframwaith strategol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella addysgeg yn ymsefydlu dros y 3 - 5 blynedd nesaf ar draws pob sector a cham addysg yng Nghymru.
Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol hynod lwyddiannus ar ddiwedd mis Tachwedd 2005 i lansio'r ddadl addysgeg yng Nghymru. Roedd yn ddigwyddiad unigryw yn hanes addysg a hyfforddiant yng Nghymru, lle y cynrychiolwyd Ysgolion Cyfnod Sylfaen, Cynradd, Uwchradd ac Arbennig a Sefydliadau Addysg Bellach mewn cynhadledd genedlaethol fawr gynhwysol am y tro cyntaf. Roedd hynny'n gyflawniad mawr i'r fenter addysgeg yng Nghymru. Wrth i'r fenter ddatblygu, byddwn yn estyn allan ymhellach i gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â dysgu yn seiliedig ar waith, y gwasanaeth ieuenctid a chymunedol, addysg i oedolion ac addysg uwch.
Yn ystod y gynhadledd rhannodd amrywiaeth eang o gyflwynwyr eu profiadau o'r gweithgareddau dysgu ac addysgu maent wedi'u mabwysiadu yn eu sefydliadau. Mae pob un o'r cyflwyniadau ar gael ar y wefan hon ac maent yn darparu adnodd cyfoethog o'r amrywiaeth o ddysgu ac addysgu sy'n digwydd ledled Cymru.
Ar ôl y gynhadledd, gofynnwyd i gynrychiolwyr gyflwyno adroddiad yn rhoi manylion o'u gwaith ar ddysgu ac addysgu o fewn eu sefydliadau hwy a sut y byddai eu presenoldeb yn y gynhadledd genedlaethol yn dylanwadu ar yr arfer hon. Mae detholiad o'r adroddiadau ar gael ar y wefan hon, ac, unwaith eto, maent yn ffynhonnell wych o wybodaeth i ymarferwyr addysg yng Nghymru.
Mae'n bleser gennyf hefyd groesawu'r 11 o hyrwyddwyr dysgu ac addysgu a fydd yn cydweithio â ni i lywio cyfeiriad y fenter. Mae pob un o'r hyrwyddwyr yn ymarferwyr sy'n gwasanaethu yng Nghymru a byddant yn rhoi â cyngor proffesiynol i ni tan fis Chwefror 2008. Ceir portreadau pen manwl o'r hyrwyddwyr ar y wefan hon.
Y gynhadledd addysgeg genedlaethol oedd dechrau'r daith ac mae'r fenter hon yn ganolog i waith yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau newydd. Bydd yr hyrwyddwyr yn ein helpu i ddatblygu strategaeth bum mlynedd i sefydlu'r fenter addysgeg hon yn yr hyn fydd, yn sicr, yn ddiwylliant dysgu ac addysgu cynyddol gyfoethog o addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Steve Marshall - Cyfarwyddwr yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau