Penodi Hyrwyddwyr Dysgu ac Addysgu
Ar 14 Chwefror, cyfarfu’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Davidson, â’r un ar ddeg o unigolion a secondiwyd i weithredu fel Hyrwyddwyr Dysgu ac Addysgu yn rhan o Fenter Addysgeg Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nod y fenter addysgeg yw gwella deilliannau i ddysgwyr drwy wella sgiliau addysgeg, gwybodaeth ac arfer ymarferwyr, gan greu disgwyliad y bydd pob ymarferwr yng Nghymru yn ymgysylltu â’r dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol.
Bydd yr hyrwyddwyr yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn cynnig cyngor ar gyfeiriad y fenter addysgeg ac yn awgrymu meysydd arfer y dylai’r fenter addysgeg geisio’u datblygu.
Dywedodd y Gweinidog, “Mae’n rhaid i ddysgu ac addysgu rhagorol fod wrth wraidd ein holl waith ym maes addysg. Rwy’n falch ein bod wedi denu’r unigolion hyn sydd o safon uchel i ddatblygu ein menter addysgeg ymhellach ac i lywio’r gwaith wrth i ni symud i gam nesaf y prosiect hwn.
Bydd eu hystod eang o gysylltiadau’n cyfrannu nerth a dyfnder go iawn I’r fenter addysgeg drwy nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a ffyrdd ymarferol o gefnogi cyd-ymarferwyr”.
Yr hyrwyddwyr dysgu ac addysgu llwyddiannus yw:
- Steven Bell - Coleg Sir Gar
- Vaughan Davies - Monmouth Comprehensive School
- Tegwen Ellis - Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg
- J. Eifion Evans - Plascrug Community Primary School
- Loraine Goss - Marshfield Primary School
- Mark Isherwood - Sport Train Wales
- Louise Lynn - Rhws Primary School
- Helena Walters - Caldicot School, Monmouthshire
- David Wylde - Ysgol Aberconwy, Conwy