Ein cerddorfa ni (Dwyieithog)
Gyda’r pwyslais ar ddysgu ac ymarfer sgiliau wrth gael hwyl gyda cherddoriaeth, cyfleoedd i arbrofi a rhyngweithio â sleidiau ‘Fflach’ cyn cychwyn ar waith gydag offerynnau dosbarth go iawn. Hefyd, ceir anogaeth i ychwanegu arbenigeddau offerynnol eraill o blith y dysgwyr at y Gwead sylfaenol.
Ceir pedwar darn byr i’w perfformio yn y pecyn, ar ffurf trefniannau hyblyg, ynghyd â chyfeiliannau parod, fel bod modd i’r addysgwyr gynnig cymorth yn ôl y gofyn i aelodau’r dosbarth. Darperir nodiant syml, ar ffurf llythrennau, a Rhannau ar ffurf Hen Nodiant, ac mae natur ailadroddol nifer o’r Rhannau yn caniatâu cynnig mynediad hwylus i amrediad eang o alluoedd ac anghenion, wrth feithrin datblygiad y cof cerddorol.

Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
Adnoddau hefyd gyda'r tag..