#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Macsen Wledig

Macsen Wledig

Prif Ffocysau: Dwyieithrwydd,
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig ,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr uned gyda dosbarth Blwyddyn 3 wrth astudio’r Celtiaid a’r Rhufeiniaid.

Bu’r disgyblion yn gweithio fel dosbarth i ddarllen stori oedd yn cynnwys patrymau iaith eithaf cymhleth ar gyfer plant yr ystod oed yma. Fodd bynnag, roedd torri’r patrymau i lawr ac ategu’r adnodd rhyngweithiol â gweithgareddau cerdyn a thechnegau Pie Corbett yn golygu bod y plant wedi ymdopi’n dda iawn â’r stori.

Effaith a Chanlyniad

  • Roedd caniatáu i’r disgyblion ychwanegu gweithrediadau a symudiadau at y geiriau allweddol yn golygu eu bod wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r testun yn gynt.
  • Mae sgiliau llefaredd y dosbarth yn datblygu’n anhygoel drwy ddefnyddio’r math hwn o adnodd sy’n benthyg ei hun mor dda i waith grŵp a gwaith dosbarth.
  • Roedd y dosbarth i gyd yn ymgymryd â’r dasg ac yn awyddus i ddefnyddio’r adnoddau a’r gweithgareddau cardiau.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd y disgyblion yn aml yn gofyn am gael darllen y stori’n annibynnol wrth i destun y Celtiaid gael ei astudio.

Gwersi a Ddysgwyd

Mae defnyddio technegau Pie Corbett yn ddull ardderchog o helpu disgyblion i sefydlu patrymau iaith newydd.