#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Eilrifau

Eilrifau

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Dysgu wedi’i Bersonoli, Mwy galluog a thalentog, DMaAGD, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion,

Rholiwch dros y fideo i weld y rheolyddion

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd i atgyfnerthu dealltwriaeth y plant o eilrifau ac er mwyn iddynt gael archwilio patrymau rhifo.

Roedd y disgyblion yn gweithio fel dosbarth cyfan i ddechrau ac yna mewn grwpiau ar wahanol lefelau dysgu o amgylch yr ystafell ddosbarth. Roeddent yn dewis pa bynnag offer yr oeddent ei eisiau i gasglu a chofnodi eu data.

Effaith a Chanlyniad

  • Roedd y plant yn ymroi i’r dasg ac yn awyddus i ddod o hyd i atebion i’r broblem
  • Roedd un ferch fach mor frwdfrydig fel ei bod wedi dyfeisio problem fach arall yn seiliedig ar yr un syniad.
  • Roedd y plant yn dysgu’n well ac yn gwneud defnydd da o’u gwybodaeth fathemategol trwy adael iddynt ddewis eu dull eu hunain o ddatrys y broblem a chofnodi eu canfyddiadau.

Adborth gan y Dysgwr

Cyn gynted ag y dechreuodd y gweithgaredd clywyd un bachgen bach yn dweud ‘O grêt, rwy’n caru Mr Jones!’

Adnoddau Eraill

Hwyaid, dŵr, hambwrdd, botymau, blociau, clai, copïau printiedig o’r broblem, pensiliau, papur, siswrn, glud, secwinau, cyfrifiadur.

Gwersi a Ddysgwyd

Mae gadael i’r plant ddatrys y broblem yn eu ffordd eu hunain yn helpu i atgyfnerthu eu dealltwriaeth fathemategol o odrifau ac eilrifau.