
Sail Resymegol a Rhesymwaith Gweledigaeth
Sail Resymegol
O fewn y ddogfen strategaeth Cymru’n Un y mae’r ymrwymiad i wella i’r eithaf les a photensial dysgu Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC) ac i godi safonau. Ers sawl blwyddyn mae myrdd o adroddiadau, datganiadau i’r wasg a llenyddiaeth berthnasol yn cydnabod bod cyrhaeddiad plant 16 oed sy’n derbyn gofal yn parhau yn sylweddol yn is na chyrhaeddiad y rhai hynny sy’n derbyn addysg prif ffrwd.
Effeithir yn sylweddol ar raddfa cyrhaeddiad addysgol y bobl ifanc gan y sialens feddyliol o ymdopi â’r canlyniadau dyrys yn eu bywydau bob dydd sy’n deillio o’r digwyddiadau a arweiniodd at eu rhoi mewn gofal. Yn y cynrychioliad diagramatic isod mae’r Fframwaith Llwyddiant yn dynodi trefn esgynnol golynnol y ffactorau sy’n ynghlwm â chodi safonau a mesur cyflymder y cynnydd.
Mae pob un o gydrannau’r Fframwaith Llwyddiant yn amlochrog ac yn dylanwadu ar gynnydd, ond o’u cysylltu â’i gilydd maent yn darparu strwythur cydlynol ar gyfer hunanddatblygiad. Yn ei hanfod cyflawnir y cyrhaeddiad trwy symud ymlaen trwy’r saith cam o addysgu. Mae sawl agwedd o’r addysgu yn darparu’r actifiant, y momentwm a’r chwilfrydedd i gymryd diddordeb pellach. Asesiad yw’r cwndid rhwng yr addysgu a’r dysgu - ‘o’r dysgu’ ac ‘ar gyfer dysgu’. Nodir cyflymder y cynnydd a’i alluogi trwy gofnodi ac adrodd yn ôl yr wybodaeth i rwydweithiau perthnasol megis rhieni ac asiantaethau proffesiynol. Bydd presenoldeb cyson yn cyflymu’r cyrhaeddiad a mynych absenoldebau’n ei gyfyngu. Conglfaen i ddiogelwch personol, cynnydd a symbyliad yw’r amgylchedd, boed hynny yn y cartref, yr ystafell ddosbarth neu le gwaith. Mynegiant o les emosiynol yw ymddygiad.

I’r Plentyn Sy’n Derbyn Gofal (LAC) mae ansadrwydd yn haen sylfaenol y Fframwaith Llwyddiant. Yn ystod cyfnodau o drawsnewid mae absenoldeb yn arwain at golli dilyniant mewn addysg, ac mae hynny’n fwy perthnasol i leoliadau y tu allan i’r sir a’r rhai ar draws y ffin. Gall cael mynediad i addysg fod yn anodd yn ystod unrhyw newid yn ystod lleoliad ac amrywiol yw effeithlonrwydd prosesau mynediad ymhob awdurdod yng Nghymru. Mae’r Plentyn Sy’n Derbyn Gofal yn wynebu sawl her o safbwynt amgylchedd y cartref a’r amgylchedd addysgol, megis goroesiad sylfaenol, diogelwch, hunanwerth a dyheadau. Mae nodweddion ymddygiad yn deillio o’r angen i fynegi emosiynau sy’n berthnasol i ryw agwedd o fywyd y plentyn, er gwaethaf statws ‘plentyn sy’n derbyn gofal’. Nid yw’n syndod bod y profiadau o drawmâu emosiynol ym mywyd y plentyn sy’n derbyn gofal yn arwain at ymddygiad heriol.
I rai plant sy’n derbyn gofal mae’n amlwg bod disgyrchiant a dychweliad cylchol tuag at sefydlogi haen sylfaenol y fframwaith llwyddiant a theimlo’n ddigon diogel i allu symud y tu hwnt i gyn-gyfnodau dysgu at ddysgu mwy dwys a llwyddiant. Bydd newid diwylliannol i’r dull o addysgu’r Plentyn Sy’n Derbyn Gofal yn gwella mynediad i gyfleoedd a phrofiadau bywyd a bydd hynny’n ei dro yn codi hunan barch a hunan werth, ffactorau fydd yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd y rhai sy’n derbyn gofal. I ni i gyd fel rhieni corfforaethol mae hyn yn golygu buddsoddi amser, y parodrwydd i dderbyn hyfforddiant perthnasol a’r cymhelliant i ddylanwadu ar newidiadau. Yn ddiau y nod fydd sicrhau cysondeb y gefnogaeth ymhob un o’r Awdurdodau Addysg Lleol a diffinio’n fwy eglur drefniadau cytbwys mynediad i gefnogaeth. Rydym yn anelu at isafu i’r eithaf y brigau a’r cafnau ar graff cromlin ddysgu yr unigolyn.
Gweledigaeth
MYNEDIAD, DIWYLLIANT a HYFFORDDIANT yw’r tair thema sy’n treiddio trwy bob un o’r datblygiadau i wella’r deilliannau addysgu i’r plentyn sy’n derbyn gofal. Oherwydd y cyswllt anorfod rhwng y themâu mae’n anochel y bydd rhai agweddau’n cael eu dosbarthu i fwy nag un categori. Hyd y gellir ei ragweld bydd datganiad o fwriad ‘Gweithredu ar LAC’ yn treiddio trwy’r holl waith sy’n gysylltiedig â Phlant Sy’n Derbyn Gofal. Yn unol â ffocws addysgol dylid cymryd yn ganiataol y bydd pob cyfeiriad at amser yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 31ain Awst.