
PDG - Wrecsam
Cynnig 2008-09
Yr ydym yn croesawu parhad y Grant Raise ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yn Wrecsam ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwaith a ddechreuwyd yn 2006-8 trwy- Ddarparu arian ar gyfer gweithgareddau allgwricwlar yn y celfyddydau
- Cyflogi gweithiwr ieuenctid rhan amser i ymgysylltu â Phlant sy’n Derbyn Gofal sydd wedi’u dadrithio’n ddifrifol ac sy’n gwrthod mynychu’r ysgol
- Cefnogi gweithgareddau chwarae wedi’u strwythuro yn ystod amser cinio mewn ysgolion gyda Phlant penodol sy’n Derbyn Gofal
- Cyflogi cynorthwyydd dysgu i gynorthwyo gyda llythrennedd/rhifedd a phlant gydag anawsterau ymlyniad.
- Cyflogi gweinyddwr rhan amser i oruchwylio’r broses cynllunio addysg personol, trosglwyddo cofnodion, cofnodi gwybodaeth a chasglu data.
- Sicrhau gwasanaethau Seicolegydd Addysgol a enwir (0.1) i gynnal asesiadau manwl ac i ddatblygu prosiectau yn yr ysgol sy’n ymwneud â’r cyfnod pontio ac anawsterau ymlyniad.
- Darparu gliniaduron/meddalwedd a chymorth adolygu i gynorthwyo gyda gwaith cwrs/arholiadau TGAU.
Crynodeb o’r Cynnig
- Clustnodi sesiynau o addysgu pwnc arbenigol i ddarparu hyfforddiant ychwanegol yn arwain at arholiadau TGAU a dyddiadau cau gwaith cwrs.
- Gweithgareddau i gefnogi’r Plant sy’n Derbyn Gofal hynny yng Nghyfnod Allweddol 4 sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig i gyflawni cymwysterau amgen e.e. ASDAN
- Prynu lleoedd ychwanegol ar raglen gyswllt ysgol fro Coleg Iâl/partneriaeth cyfoethogi cwricwlwm 14-19 ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
- Cefnogaeth cynorthwywyr addysgu ychwanegol.
- Darparu adnoddau hyfforddi a chefnogi ychwanegol ar gyfer staff cartref plant preswyl - at ddibenion hyfforddi unigolyn penodol i weithredu fel cyswllt ac i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau.
- Darparu offer TG ar gyfer cefnogaeth TGAU i’r Plant sy’n Derbyn Gofal hynny a allai fod wedi’u gwahardd neu sydd â bylchau sylweddol yn eu gwybodaeth.
- Cefnogi cwblhau a gweithredu Cynlluniau Addysg Personol yn fwy effeithiol er mwyn cryfhau prosesau monitro a chynorthwyo i osod targedau.
- Darparu HMS ar gyfer athrawon dynodedig Plant sy’n Derbyn Gofal Cyfnod Allweddol 4 ar godi dyheadau a chyrhaeddiad a datrys gwrthdaro.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Mynychodd Voices from Care gynhadledd Gwrth-fwlio a drefnwyd gan Blant a Phobl Ifanc
- Hyfforddiant mewn swydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu Plant sy’n Derbyn Gofal
- Prynu llyfrau darllen
- Prynu cymhorthion adolygu
- Pecynnau e-ddysgu
- Hyfforddiant ychwanegol
- Prosiect arlunydd preswyl mewn ysgol arbennig
- Cyflogi cynorthwyydd addysgu
- Ariannu cyrsiau cyswllt 14-16 ychwanegol
- Ariannu gweinyddydd rhan amser ar gyfer monitro ansawdd ac effeithiolrwydd Cynlluniau Dysgu Personol
- Prynu cyfrifiaduron gliniadur/argraffwyr er mwyn cynorthwyo Plant sy’n Derbyn Gofal gyda gofynion gwaith cwrs
- Cyrsiau addysg awyr agored
- Hyfforddiant mewn swydd ar ASDAN
Effaith:
- Cynnydd mewn canlyniadau TGAU
- Llai o waharddiadau
- Llai o fethiannau mewn lleoliadau maethu
- Dyheadau uwch yn arwain at gynnydd mewn addysg ôl 16 (hyfforddiant a chyflogaeth)
- Hunan-barch cynyddol ymhlith Plant sy’n Derbyn Gofal
- Adborth positif trwy adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal
- Cydnabyddiaeth o waith a ymgymerwyd gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal fel y nodwyd yn y cofnodion Panel Rhiant Corfforaethol/cyd-banel dros addysg a hefyd gan ESTYN (adroddiad i'w gyhoeddi yn 2008)
Wrecsam