
PDG - Bro Morgannwg
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn darparu pecynnau unigol er mwyn helpu i fentora a darparu ar gyfer anghenion addysgol disgyblion Cyfnod Allweddol 4 yn bennaf, a rhai hefyd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Bydd y pecyn yn cynnwys hyfforddiant preifat ychwanegol, sesiynau drama neu ddawnsio er mwyn meithrin hunan-barch a sgiliau cymdeithasol, sesiynau mentora, therapi a mathau gwahanol o ddosbarthiadau hyfforddi neu leoliadau ar gyfer rhai sy’n methu ymwneud yn rhwydd ag addysg.
Mae’r awdurdod addysg lleol eisoes wedi rhoi cyfrifiadur col a meddalwedd TG i bob disgybl dan ofal sy’n dilyn cyrsiau addysg a hyfforddiant ar hyn o bryd. Byddwn yn ceisio ymgorffori’r adnoddau hyn yn ein pecynnau hyfforddi ychwanegol er mwyn cael cynnig pecyn mor fuddiol ag sy’n bosibl. Mae ysgolion eisoes yn gwybod am y datblygiadau newydd hyn ar gyfer y disgyblion yn eu plith sy’n cael gofal. Cawsant eu hannog i ystyried eu hanghenion yn fanwl a chysylltu â gofalwyr maith a Chyd-drefnwyr Anghenion Addysgol Arbennig er mwyn gallu rhoi cyngor a chynnig y meddalwedd llythrennedd a rhifedd mwyaf addas.
- Cysylltu ag ysgolion a gweithwyr cymdeithasol a siarad â disgyblion dan ofal am eu hanghenion addysgu a lles.
- Archwilio data Gwella Ysgolion a chanlyniadau ysgolion sy’n berthnasol i bob disgybl dan ofal yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 er mwyn nodi’r rhai sydd wedi methu â chyrraedd y nod a’r rhai a ddylai gael cymorth.
- Cynllunio a datblygu pecynnau dysgu sy’n darparu’n union ar gyfer anghenion disgyblion unigol.
- Canolbwyntio’n arbennig ar y disgyblion ym mlwyddyn 6 sy’n gofyn am gymorth i ymdopi yn ystod y cyfnod pontio.
- Cynnig sesiynau cynghori unigol.
- Hwyluso ymweliadau addysgol.
- Cynnig hyfforddiant ychwanegol ar ôl yr ysgol.
- Cynnig canllawiau adolygu i bob disgybl.
- Trefnu i ddisgyblion dihyder nad oes ganddynt fawr o hunan-barch fynychu dosbarthiadau drama a dawnsio Stagecoach.
- Sicrhau bod disgyblion dan ofal, sydd mewn perygl o gael eu dosbarthu gyda’r rhai ‘y tu allan i fyd addysg, hyfforddiant a gwaith’ cael cefnogaeth cynorthwyydd cymorth dysgu er mwyn cynnal eu diddordeb yn yr ysgol, neu gynnal eu diddordeb tra eu bod yn aros am le mewn ysgol newydd.
- Cynnig sesiynau’r cwricwlwm amgen i’r ychydig ddisgyblion (ym mlwyddyn 11 ran fynychaf) sy’n gwrthod dod i’r ysgol neu sydd wedi’u gwahardd. Cynnal y sesiynau yn y ganolfan addysg agored leol, fferm Ymddiriedolaeth Amelia neu’r ganolfan hyfforddi leol.
- Mae mwy o gyfle i fanteisio ar feincnodi erbyn hyn.
- Drwy hunanwerthuso daeth yn bosibl llunio ‘cynllun canolbwyntio ar ddisgyblion’ ar gyfer y dyfodol sy’n rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau.
- Bydd mwy o ymdrech yn cael ei gwneud i arbed disgyblion rhag mynd yn anniddig a chael eu hynysu neu’u gwahardd.
- Roedd y bobl ifanc wrth eu bodd yn cael mwy o help gyda darllen, ysgrifennu a chyfrif ac arholiadau allanol.
Roedd Tîm Plant yn Gyntaf yn fodlon ar gynnydd y rhan fwyaf o ddisgyblion blwyddyn academaidd 2008-9 ac am gadw’r model newydd. Serch hynny, bydd angen monitro’r model yn drwyadl a newid y pecynnau cymorth yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol. Bydd yn rhaid i ni felly, neilltuo mwy o amser ar gyfer monitro. Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i’r AALl ganolbwyntio ar ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd mewn perygl o gael eu dosbarthu gyda’r rhai ‘y tu allan i fyd addysg, hyfforddiant a gwaith’. Mae’r Cyd-drefnydd Addysg yn cydweithio’n agos â chydweithwyr Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc a Gyrfa Cymru er mwyn darparu ar gyfer anghenion y grwp hwnnw. Bydd grant CCSAU yn cael ei ddefnyddio gyda nawdd oddi wrth yr AALl ar gyfer disgyblion dan ofal sy’n iau nag 16 oed.
Ein Digwyddiadau Nesaf
Yn dilyn llwyddiant y noson wobrwyo’r llynedd, yr ydym wedi penderfynu trefnu noson arall ac yn gofyn i bawb sy’n ymwneud â phlant dan ofal anfon enwebiadau. Roedd yn fuddiol iawn i ni ddod â sefyllfa’r plant hyn i sylw’r Aelodau Etholedig am eu bod bellach yn gyfarwydd â’r materion sy’n effeithio arnynt ac yn cefnogi ymdrechion Tîm Plant yn Gyntaf.
Mae’r Cyd-drefnydd Addysg wedi sefydlu Cyngor Ysgolion Plant dan Ofal er mwyn i’r plant hyn gael mynegi eu barn a sôn wrth y cyngor am eu problemau wyneb yn wyneb. Mae un o aelodau Cyngor Ysgolion Plant dan Ofal hefyd yn aelod o Banel Sgiliau Magu Plant Corfforaethol y Fro erbyn hyn. Bwriadwn gynnal diwrnod hyfforddi ar gyfer Athrawon Penodedig Plant dan Ofal yng Ngwanwyn 2010 sy’n canolbwyntio ar y plant hyn mewn ysgolion. Dylech anfon unrhyw ymholiadau i gyfeiriad rslade@valeofglamorgan.gov.uk
Bro Morgannwg