
PDG - Abertawe
Roedd 558 o blant yn derbyn gofal yn Abertawe ym mis Mai 2011. Mae’r niferoedd wedi cynyddu’n sylweddol dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae arian RHAGORI parhaus wedi rhoi cyfle i ni gefnogi cymorth ychwanegol a dargedir i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Mae cefnogaeth wedi’i datblygu a’i sefydlu dros gyfnod y grant ac erbyn hyn mae’n rhan o becyn cefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn Abertawe. Y gobaith yw parhau â’r lefel hon o gefnogaeth a dargedir trwy’r elfen o grant GEY a neilltuwyd. Cyfanswm y disgyblion blwyddyn 11 sydd wedi elwa’n uniongyrchol o’r gefnogaeth hon ers 2006 yw 167 gyda nifer tebyg o ddisgyblion blwyddyn 10 ac mae cefnogaeth wedi’i chynnig i ddisgyblion blwyddyn 9 ers 2009.
Mae ariannu RHAGORI wedi galluogi Abertawe i benodi dau weithiwr prosiect dynodedig sy’n cynnig cefnogaeth fentora i ddisgyblion blwyddyn 9, 10 ac 11 ac i’r rhai sy’n symud i addysg bellach ym mlwyddyn 12. Yn hanesyddol, mae’r Awdurdod Lleol wedi cyflogi un gweithiwr prosiect ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac, ers cyflwyno Grant RHAGORI mae’r gweithiwr hwn wedi gallu canolbwyntio ar gefnogaeth i bobl ifanc ym mlwyddyn 8 ac iau. Felly, mae’r pecyn cymorth nawr ar gael i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal o feithrin i addysg uwch yn unol â chais gan ysgolion a cholegau.
Mae arian RHAGORI wedi caniatáu darparu tiwtora yn y cartref i’n plant rhwng 9 a 13 oed sy’n derbyn gofal o fewn y sir a’r tu allan i Ddinas a Sir Abertawe. Darperir adnoddau astudio i bob person ifanc o 9, 10 ac 11 oed a chefnogir ceisiadau unigol ychwanegol hefyd.
Mae’r Awdurdod Lleol yn falch o’r wybodaeth a’r data a gasglwyd ar draws Abertawe. Mae’r data a gesglir mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal yn galluogi monitro perfformiad yn erbyn potensial gyda’r gefnogaeth yn nodi deilliannau addysgol gwell i PDG. Mae staff prosiect RHAGORI’n gweithio’n agos â swyddogion gwybodaeth addysg a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau cywirdeb casglu data ac adborth ac mae system gadarn ar waith. Credir bod yr arfer da hwn yn unigryw i Awdurdod Lleol Abertawe. Mae’r Awdurdod Lleol yn monitro perfformiad, presenoldeb, gwaharddiadau ac agweddau perthnasol eraill a chyflwynir adroddiadau i’r Grŵp Addysg PDG a Phwyllgor Craffu’r Cyngor.
Rhywbeth pwysig i’w nodi yw tueddiad PDG blwyddyn 11 sy’n gwella o ran cyflawni un TGAU a phum TGAU. Mae tuedd am i lawr hefyd o ran PDG sy’n gadael addysg amser llawn heb gymhwyster. Mae cynllunio gwell i gefnogi pobl ifanc i fanteisio ar addysg bellach a chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant hefyd yn nodi tuedd sy’n gwella.
Mae data RHAGORI wedi pwysleisio cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig sy’n derbyn gofal. Rhoddir blaenoriaeth i bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan Baneli AAA y Sir ac Addysg mewn Lleoliad ar Wahân i’r Ysgol (EOTAS), ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn gofal yn y sir a rhai o’r tu allan sy’n cael eu lleoli yn Abertawe.
Mae pob person ifanc sy’n derbyn gofal sy’n gadael blwyddyn 11 â chymhwyster cydnabyddedig wedi derbyn tystysgrif a llythyr cymeradwyo gan y Cyfarwyddiaethau Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd disgyblion hefyd yn derbyn tocyn/taleb. Caiff cyflawniad academaidd ei gydnabod ymhellach yn y seremoni wobrwyo flynyddol - cynhaliwyd tair seremoni hyd yn hyn.
Yn ystod y pum mlynedd ers derbyn y Grant RHAGORI, mae Abertawe wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus iawn ar Gefnogi Pobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg (2008) ac wedi cynnal rhaglen beilot ar gyfer Cynllun Profiad Gwaith BT ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (2009). Yn 2009, rhoddodd PDG Abertawe gyflwyniad i ymwelwyr rhyngwladol ar raglen ‘transversal’ Llywodraeth Cymru. Hefyd, yn 2009, enillodd Abertawe Grant Darllen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a ddarparodd docynnau llyfrau i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Yn 2010, gweithiodd Abertawe yn rhanbarthol (SWAMWAC) a chyfrannu adnoddau trosglwyddo i blant sy’n derbyn gofal fel rhan o Brosiect Ysgolion RHAGORI.
Cynllunio ar gyfer cefnogaeth barhaus
Bydd dau weithiwr prosiect RHAGORI yn parhau i gynnig cefnogaeth unigol yn seiliedig ar angen i’n holl blant a’n pobl ifanc sy’n derbyn gofal. Bydd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar ddarpariaeth academaidd ond mae cefnogaeth cwnsela ac ymddygiad hefyd ar gael yn ôl yr angen. Rydym yn cydweithio’n agos ag Athrawon Arbenigol y Sir.
Bydd gweithwyr prosiect yn parhau i ddarparu:
Sesiynau cefnogaeth bersonol, mewn grŵp neu fel dosbarth
Cysylltiadau rhwng y lleoliad, yr ysgol a gweithwyr cymdeithasol
Cysylltiadau â chartrefi preswyl i blant
Cefnogi pobl ifanc sy’n newid ysgol
Cefnogi ail-integreiddio disgyblion a waharddwyd
Cysylltiadau ag asiantaethau a phartneriaid eraill gan gynnwys Colegau AB, Gyrfa Gorllewin Cymru
Bydd cefnogaeth barhaus arall yn cynnwys:
Tiwtora yn y cartref i ddisgyblion 9-13 oed
Adnoddau i ddisgyblion ym mlynyddoedd 9-13 yn y sir a’r tu allan iddi
Cymhorthion astudio ac adolygu, cyfrifianellau a chofau bach
Ceisiadau unigol ar gyfer adnoddau anghyffredin
Cyfarpar i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen i gwrs addysg bellach
Diweddaru adnoddau addysgol ar gyfer Cartrefi Plant yr Awdurdod Lleol
Cefnogaeth ar gyfer ymweliadau a gweithgareddau addysgol
Abertawe