
PDG - Powys
Gwybodaeth ar gyfer y wefan:
Mae Powys wedi datblygu dull wedi’i dargedu/pwrpasol o fynd ati mewn perthynas â chymorth addysgol ar gyfer LAC, trwy ddefnyddio cyllid RAISE dros y pedair/pum mlynedd diwethaf. Mae canolbwyntio cyllid ar gymorth wedi’i deilwra ar gyfer LAC wedi arwain at well canlyniadau addysgol a chymhelliant ar gyfer ein poblogaeth LAC, ac wedi codi proffil addysg ar gyfer ein gofalwyr a gweithwyr proffesiynol mewn Ysgolion a Gwasanaethau Plant.
Y bwriad yw i barhau i sefydlu dull unigol o fynd ati mewn perthynas â chymorth addysgol, trwy’r broses PEP (Cynllun Addysg Personol) sydd wedi’i sefydlu’n dda, a thrwy gynnwys gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, athrawon dynodedig, LAC unigol a’r cydlynydd LAC/YOS. Bydd adnoddau fel tiwtora ychwanegol, cymorth mentora, gliniaduron, rhaglenni Rhifedd/Llythrennedd ‘Dyfal Donc’ ychwanegol, tocynnau llyfrau, mynediad i adnoddau dysgu ar-lein yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol a chyllid ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol ychwanegol a thripiau ysgol yn parhau i gael ei dargedu fel y bo’n briodol i’n poblogaeth ysgol LAC.
Powys