
PDG - Sir Benfro
Cynnig 2008-09
- Yn Sir Benfro ceir ymgynghoriadau rheolaidd ar Blant sy’n Derbyn Gofal sy’n cael eu cynnal gyda Grwp Rhianta Corfforaethol y cyngor. Mae’r grwp hwn yn cefnogi addysg Plant sy’n Derbyn Gofal ac mae’n adeiladu ar ei waith. Mae Plant sy’n Derbyn Gofal yn derbyn gliniaduron a chanllawiau adolygu i gyflawni eu potensial addysgol.
- Mae’r grant RAISE wedi datblygu ac ehangu’r cymorth hwn trwy benodi dau “hyfforddwr dysgu” ar gyfer disgyblion blynyddoedd 10 ac 11. Mae eu rôl yn un hyblyg a theithiol. Gall gynnwys gwaith dwys rheolaidd gyda disgyblion yn yr ystafell ddosbarth neu gynorthwyo disgyblion ar adeg arholiadau. Ym mis Medi 2008 bydd yr hyfforddwyr dysgu hefyd yn gweithio gyda disgyblion yn ystod cyfnodau pontio yn eu haddysg.
- Mae’r hyfforddwyr dysgu’n mentora disgyblion beth bynnag fo lleoliad eu haddysg. Maent yn cefnogi disgyblion mewn cyfweliadau gyrfaol a chynlluniau ôl 16 oed. Maent hefyd yn cydweithio’n agos gyda gweddill y tîm sy’n cynorthwyo’r Disgybl sy’n Derbyn Gofal – y gweithiwr cymdeithasol, y gofalwr maeth a’r athro dynodedig.
- Gall pob plentyn dderbyn pecyn cymorth gwahanol.
- Mae canlyniadau’r pecynnau’n cael eu mesur yn ôl sefydlogrwydd y lleoliadau ysgol, gostyngiad yn nifer y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a chynnydd yn eu cymhelliant i lwyddo’n academaidd ar gyfer eu dyfodol.
- Mae disgyblion yn cael eu holrhain trwy eu dyddiau ysgol, ac mae gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol yn cael eu hannog i gefnogi a monitro canlyniadau addysgol.
- Mae RAISE wedi cynorthwyo i hybu hunan barch Plant sy’n Derbyn Gofal Sir Benfro trwy ddarparu cymorth ychwanegol iddynt y tu allan i’r ysgol, a hynny i’r fath raddau nes bod ein Plant sy’n Derbyn Gofal ar hyn o bryd yn barod i weithredu fel mentoriaid i blant iau sy’n derbyn gofal i annog, cynghori a rhannu eu profiadau eu hunain.
Crynodeb o’r Cynnig
- Cyflogi 2 o Hyfforddwyr Dysgu Plant sy’n Derbyn Gofal gyda disgyblion Blwyddyn 10 a 11 ar sail gylchynol
- Darparu cyfrifiaduron gliniadur/cyfrifiaduron i alluogi adolygu a gwaith cwrs
- Darparu canllawiau TGAU a deunydd adolygu TGAU pellach
- Cysylltu gydag ysgolion yn ymwneud â dyddiadau cau gwaith cwrs;
- Darparu cefnogaeth yn ystod atgyfaniad i ddarpariaeth prif ffrwd ar ôl cyfnodau o salwch, gwaharddiad neu newid ysgol
- Cefnogi gofalwyr trwy ddarparu cyswllt gydag ysgolion;
- Cynorthwyo gyda dysgu ar-lein
- Darparu cefnogaeth i ofalwyr maeth gyda TGCh a dysgu ar-lein
- Bydd protocolau rhyngasiantaethol yn cael eu llunio a’u peilota
- Darparu hyfforddiant Pwnc Craidd ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal y tu allan i'r sir.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Cyflogwyd 2 o weithwyr cymorth addysg i weithio gyda 33 o bobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd yn amrywio o gefnogaeth un ac un yn yr ystafell ddosbarth gyda'r rheini a oedd yn barod i dderbyn y gefnogaeth honno, i roi cyfrifiaduron gliniadur a chanllawiau adolygu i bobl ifanc a oedd yn teimlo fod pethau'n mynd yn dda yn yr ysgol.
- Gweithiodd y gweithwyr cymorth hefyd gyda phobl ifanc yn y cartref maeth a hefyd cynghori gofalwyr maeth ynghylch eu rôl yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau. Fe wnaethant weithredu fel cyswllt rhwng y cartref maeth a’r ysgol.
- Dosbarthwyd canllawiau adolygu a gyhoeddwyd trwy weithwyr cymdeithasol a pharatowyd pecynnau adolygu penodol. Rhoddwyd canllaw ar sut i adolygu i'r holl bobl ifanc ac roedd nodiadau atgoffa a chefnogaeth ar gael adeg yr arholiadau.
Effaith:
- Mae ysgolion wedi bod yn ddiolchgar iawn o'r gefnogaeth ychwanegol. Mae hefyd yn codi proffil Plant sy’n Derbyn Gofal mewn ysgolion.
- Roedd un o’n hysgolion uwchradd wedi defnyddio arian Rhagori i sefydlu system mentora ysgol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal er mwyn osgoi dyblygu adnoddau.
- Roedd llawer o ysgolion eisiau cefnogaeth ynghynt – blwyddyn 8/9.
- Mae hwn yn brosiect amlasiantaethol gwych. Er ei fod wedi’i arwain gan addysg, mae gweithwyr cymdeithasol wedi gweld y gwahaniaeth y gall cefnogaeth ei gwneud, mae gofalwyr maeth wedi bod yn barod iawn i weithio ar adolygu hefyd.
- Mae’r canllawiau adolygu yn rhoi man cychwyn ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn weithwyr proffesiynol, ac mae cael cyswllt gweithiwr cymorth yn rhoi hyder i bawb dan sylw.
- Mae gweithwyr cymorth yn mynd i ysgolion, mae ganddynt yr amser i wrando ac ystyried rhai datrysiadau i’r materion a godwyd, gweithio gydag athrawon/pennaeth blwyddyn/athrawon dynodedig tuag at ddatrysiad cyflym.
Sir Benfro