
PDG - Castell-nedd Port Talbot
Rhagarweiniad
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot Grŵp Addysg PDG gyda chynrychiolaeth amlasiantaeth o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc), y Gyfarwyddiaeth Addysg, TTI ac Iechyd. Mae'r grŵp wedi paratoi 'Cynllun Strategol ar gyfer Gwella Cyflawniad Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal Cyhoeddus’. Mae'r cynllun hwn wedi cyfeirio gwaith paratoi y cynnig gwariant RHAGORI cychwynnol hwn. Ffurfiwyd grŵp tasg a gorffen, a oedd yn cynnwys swyddogion Addysg a Gwasanaethau Plant i lunio'r cais am grant.
Cynnig 2008 - 2011
Mae Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu parhau i gyflogi 'Gweithiwr Prosiect' amser llawn a fydd yn ategu darpariaeth dechrau a diwedd dydd CNPT ar gyfer plant sy'n derbyn gofal drwy hwyluso pecynnau priodol o gefnogaeth astudio ychwanegol i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan Gastell-nedd Port Talbot ar y camau trosglwyddo hanfodol yn eu gyrfaoedd ysgol, gyda ffocws clir ar Gyfnod Allweddol 4. Bydd y Gweithiwr Prosiect wedi'i leoli gyda'r tîm Partneriaeth PDG amlasiantaeth sydd eisoes wedi'i sefydlu, lle mae cysylltiadau gydag iechyd, addysg, timau gwaith cymdeithasol a CAMHS eisoes yn bodoli. Bydd y Gweithiwr Prosiect yn trefnu:
Cefnogaeth gwricwlaidd ddwys - cefnogaeth tiwtora/astudio ychwanegol.
Prynu adnoddau cwricwlwm a/neu ganllawiau adolygu i ategu'r ddarpariaeth TGCh sydd eisoes ar gael i blant sy'n derbyn gofal gan CNPT.
Gwobrwyon priodol am ymdrech a chyflawniad gan unigolion.
Darperir y gefnogaeth hon ar y cyd â staff o ddarpariaeth yr awdurdod ar gyfer addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol. Gyda'r prif ffocws ar flynyddoedd 10 ac 11 a ffocws ychwanegol ar flynyddoedd 6 a 7, bydd hefyd:
Yn cwrdd â phobl ifanc, gofalwyr maeth/rhieni a staff yr ysgol i nodi anghenion datblygiadol, cryfderau ac anawsterau unigol y person ifanc.
Yn llunio rhaglenni unigol o gefnogaeth wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc ac adeiladu ar dargedau eu CAP.
Yn cefnogi pobl ifanc naill ai'n unigol neu mewn grwpiau bach i'w helpu i fod yn ddysgwyr annibynnol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth e-ddysgu a hyfforddiant ar-lein.
Darparu cefnogaeth benodol i helpu disgyblion i ailintegreiddio i ysgol brif ffrwd o UCD neu gyfnodau eithrio.
Sicrhau bod pob person ifanc ym Mlwyddyn 10 ac 11 yn derbyn cyngor gyrfaoedd, yn llunio dyheadau ar gyfer y dyfodol ac yn hybu symud i addysg uwch a phellach neu at ddysgu sy'n seiliedig ar waith.
Yn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn cefnogaeth briodol er mwyn cynorthwyo trosglwyddo llwyddiannus o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.
Darparu hyfforddiant i ofalwyr maeth a rhieni i'w galluogi i gefnogi pobl ifanc yn well gyda'u haddysg.
Yn monitro ac yn adolygu cynnydd a chyflawniad – yn ymgysylltu gydag ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mewn awdurdodau lleol eraill.
Yn gweithio gyda darparwyr pecynnau addysg y tu allan i'r ysgol a chartrefi gofal preswyl annibynnol y bwriedir eu sefydlu yn CNPT yn ystod yr hydref 2006.
Caiff y grant ei ddefnyddio i ariannu Gweithiwr y Prosiect ac athrawon/mentoriaid dysgu i ddarparu cefnogaeth astudio ychwanegol. Cyflogir yr olaf wrth yr awr i ddiwallu angen a nodir. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau teithio, adnoddau a deunyddiau, a rheoli a goruchwylio.
Crynodeb o weithgareddau a'u heffaith ar fywydau pobl ifanc
Newidiadau mewn lefelau cyrhaeddiad:
Cafwyd effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad dros y tair blynedd y mae'r prosiect wedi bod ar waith gyda gwelliant cyson yng ngraddau TGAU a chyflawniad. Bu newid sylweddol o'r graddau lefelau is gyda mwy o ddisgyblion yn ennill graddau C+. Mae'r siart isod yn dangos gwelliant graddau arholiad dros dair blynedd olaf disgyblion blwyddyn 11 oedd yn derbyn gofal am fwy na 28 niwrnod yn ystod y flwyddyn academaidd.
Canlyniadau arholiadau PDG Castell-nedd Port Talbot 2007 - 2010
Mentrau eraill a gyflwynwyd:
Creu canllaw sgiliau astudio ar gyfer arholiadau i helpu pobl ifanc i ddeall sut maent yn dysgu ac yn cofio gwybodaeth orau ac yna cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr arholiadau. Fe'i dosbarthwyd i holl ddisgyblion blynyddoedd 10 ac 11.
Bu llythrennedd yn bryder i nifer o bobl ifanc sy'n derbyn gofal. Felly, ar y cyd â'r Tîm Sgiliau Sylfaenol, cafwyd arian i hyfforddi 2 aelod o staff o bob un o'n hysgolion uwchradd yn y cynllun llythrennedd 'Catch Up', gyda'r amod mai plant sy'n derbyn gofal fyddai'n cael y flaenoriaeth. Darparwyd fersiwn Gymraeg 'Dal i Fyny' hefyd.
Mae'r prosiect wedi cynnig ariannu aelod o staff o bob un o ysgolion uwchradd ac UCD CNPT i fynd i weithdy BAAF ar 'Attachment in the Classroom'.
Parhau i weithio ar y cyd â Choleg CNPT. Trefnwyd Cwrs Sgiliau Astudio eleni, a chynhaliwyd y rhaglen dros gyfnod o 6 wythnos. Roedd yn agored i flynyddoedd 10 ac 11. Trefnwyd ymweliadau gyda'r Coleg â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Prynu 100 o leoedd ar y rhaglen ddysgu ryngweithiol SAM. Rhoddir cyfrineiriau unigol i ddisgyblion a nodwyd i gyrchu rhaglen ddysgu SAM i'w helpu i weithio ar unrhyw bwnc. Gall y Swyddog Prosiect Addysg osod gwaith ar gyfer unigolion, a gallant weld pan fydd disgyblion wedi cwblhau tasgau a'r sgorau a gafwyd.
Newid mewn ymddygiad ac agwedd:
Mae mwy o bobl ifanc yn elwa ar weithgareddau eraill a drefnwyd megis chwaraeon/gweithgareddau antur sy'n cynnwys sgiliau allweddol gwahanol megis 'gweithio gydag eraill', 'gwella fy nysgu fy hun' a 'datrys problemau’. Mae'r gweithgareddau hyn yn datblygu hunan-barch a hunanhyder, ac yn gwella gallu pobl ifanc i weithio ar y cyd â'u cyfoedion a staff ysgol, felly maent yn ymgysylltu'n fwy llwyddiannus â dysgu. Cynorthwywyd dau o'n pobl ifanc i gael lleoedd yng ngwersyll haf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roeddent yn ddau o dri pherson ifanc yn unig a ddewiswyd o Gymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau antur awyr agored a dadleuon am gydraddoldeb a hawliau dynol.
Adborth:
Caiff ffurflenni adborth eu hanfon at ysgolion, gofalwyr a phobl ifanc ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd. Mae'r adborth hwn wedi bod yn gadarnhaol ac ymysg rhai o'r sylwadau ar effaith y prosiect y mae: "Mae ein disgyblon PDG wedi gwneud cynnydd aruthrol mewn mathemateg yn arbennig. Roedd y tiwtora mathemateg o werth hanfodol ac ni allaf orbwysleisio ei bwysigrwydd." Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Cwmtawe 'Mae'r Swyddog Prosiectau wedi darparu gwasanaeth rhagorol yn ein hysgol.Yn fuddiol i helpu disgyblion gyda'u gwaith ysgol, sgiliau astudio a helpu i godi eu hunan-barch'.SENCo Ysgol Gyfun Dyffryn 'Mae'r gefnogaeth a gafwyd wedi cael effaith uniongyrchol a bydd hefyd o fudd ar gyfer y dyfodol' - Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Dŵr y Felin. 'Yn fuddiol iawn i unrhyw fyfyriwr ym mlwyddyn 10-11' - Gofalwr. 'Mae'r gefnogaeth a gafodd xxxxx wedi ei helpu'n fawr iawn' Gofalwr 'Mae'r tiwtora wedi rhoi mwy o hyder i mi ac wedi helpu llawer iawn gyda mathemateg' - Disgybl blwyddyn 7 'Rwy wedi mwynhau ac mae wedi helpu llawer mewn mathemateg. Mae wedi gwella graddau fy arholiadau ym mathemateg' - Disgybl blwyddyn 11 'yn ddefnyddiol iawn gyda phethe roeddwn i wedi eu anghofio' -Disgybl blwyddyn 11.
Castell-nedd Port Talbot