
PDG -Sir Fynwy
Cynnig 2008-09
Yn 2008 – 2011:- Bydd Cyngor Sir Fynwy yn monitro a gwerthuso datblygiad a gweithredu Cynlluniau Addysg Personol gan ddilyn canllawiau a gynhyrchwyd y flwyddyn gynt. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar osod targedau a chanlyniadau disgyblion unigol.
- Bydd cyfarfodydd rhwydwaith a hyfforddiant yn cael eu trefnu ar gyfer Cydlynwyr Plant sy’n Derbyn Gofal a staff ysgolion.
- Cynhelir cyfarfodydd aml asiantaeth gyda Rhieni Maeth ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yn y cyfnod pontio.
- Bydd gwaith ymyrraeth gynnar yn cael ei wneud i ddatblygu sgiliau llythrennedd y Plant sy’n Derbyn Gofal hynny yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 sy’n tangyflawni yn Sir Fynwy.
Crynodeb o’r Cynnig
- Rhoi athro o ysgol yn Sir Fynwy ar secondiad i ehangu ar y gallu i gefnogi a herio myfyrwyr sy’n derbyn gofal.
- Adolygu ffrydiau ariannu posibl a dyrannu cefnogaeth astudio ychwanegol a datblygu cysylltiadau cartref-ysgol.
Summary of Activities to July 2007
- Penodi Swyddog Plant sy’n Derbyn Gofal rhan amser yn ystod y flwyddyn.
- Ymgynghori gyda’r holl grwpiau perthnasol
- Set o ganllawiau 90 tudalen ar Blant sy’n Derbyn Gofal ar gyfer Uwch staff ysgolion, yr ystafell ddosbarth ac ymarferwyr eraill
- Cynllun Addysg Personol wedi’i fformatio o’r newydd ar ôl ymgynghoriad gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac ysgolion, sy’n cynnwys gosod targed unigol
- Cwblhau Cynlluniau Addysg Personol yn well gyda phroses fonitro fanylach
- Casglu data a’i ddadansoddi gan Awdurdod Addysg Lleol ar Blant sy’n Derbyn Gofal
- Cynhadledd (deuddydd) ar gyfer Prif Athrawon, Swyddogion Awdurdod Addysg Lleol, Is-benaethiaid, Uwch Staff o ysgolion a grwpiau eraill sydd â diddordeb i lansio arfer mwy safonedig o fewn yr awdurdod
- Ymweliadau cydlynydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal ag ysgolion i gyfoethogi proffil addysg Plant sy’n Derbyn Gofal
- Prosesau monitro cyfan wedi gwella craffu llawer yn agosach o berfformiad disgyblion unigol a fydd yn eu tro yn helpu i godi cyrhaeddiad.
Effaith:
- Mae canllawiau newydd yn darparu gwaelodlin ar gyfer arfer da
- Cynlluniau Addysg Personol newydd yn canolbwyntio ar feysydd sy’n gofyn am gefnogaeth ychwanegol.
- Ymweliadau ag ysgolion yw’r rhai mwyaf llwyddiannus a lefel gynyddol o bwysigrwydd i fynd i'r afael ag anghenion disgyblion Plant sy’n Derbyn Gofal
- Mae ceisio cadw’n gyfredol gyda llifedd senarios Plant sy’n Derbyn Gofal gyda phlant yn aml yn dod i'r system am gyfnod byr wedi bod yn anodd ei fodloni
- Mae data cywir, ei gynnal a’i gyfathrebu ar draws gwasanaethau angen parhau yn broffil uchel ar gyfer pawb
- Mae'r cyswllt rhwng y gwasanaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn gryfder parhaus
- Mae ysgolion wedi adrodd ar fodlonrwydd yn y canllawiau newydd a’r Cynlluniau Addysg Personol.
- Bydd proffil cynyddol ymhlith athrawon a llywodraethwyr o fewn ysgolion disgyblion Plant sy’n Derbyn Gofal yn arwain at arfer gwell a gwell cydnabyddiaeth o anghenion disgyblion Plant sy’n Derbyn Gofal gan hynny yn cynyddu hunan-barch ac agweddau positif disgyblion Plant sy’n Derbyn Gofal eu hunain.
- Gwell ymwybyddiaeth gan bawb o’r angen ar gyfer lleoliad ysgol sefydlog, cysondeb mewn agweddau ac adnoddau wedi’u hymrwymo i fodloni anghenion disgyblion Plant sy’n Derbyn Gofal
Sir Fynwy