
PDG - Merthyr Tudful
Un o'n prif flaenoriaethau yw sicrhau fod pob un o blant sy'n derbyn gofal ym Merthyr Tudful yn gorffen CA4 gyda chymhwyster achrededig. Mae'n rhoi llawer o foddhad i ni nodi, o fewn cohort Blwyddyn 11 Plant sy'n Derbyn Gofal Merthyr Tudful, fod 100% wedi gadael CA4 gyda chymhwyster cydnabyddedig, o fewn cohort 2009-2010, gadawodd 94% gyda chymhwyster achrededig. Rydym wedi ymrwymo i gael canlyniadau tebyg eleni. Sylweddolwn y gall plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal fod yn wynebu pob math o rwystrau i allu cyflawni eu llawn botensial academaidd. Drwy broses sgrinio holl ddisgyblion CA4 sy'n derbyn gofal ym Merthyr Tudful, byddwn yn targedu anghenion addysgol/cymdeithasol/emosiynol unigol a adnabuwyd sy'n effeithio ar ddysgu a chyflawniad. Ystyrir a fyddai plant sy'n derbyn gofal ym Merthyr Tudful a'r tu allan i'r sir yn elwa o'r gweithgareddau canlynol fel rhan o gyllid Rhagori. Mae'r rhain yn cynnwys darparu adnoddau astudio TGAU (yn cynnwys offer TG), gwersi preifat gydag athro cymwys, gweithdai gwella sgiliau cymdeithasol a hunan-barch; gwaith un i un gydag ymarferwr proffesiynol neu fynediad at ddarparwyr addysg gwahanol er mwyn cefnogi cadw lle mewn ysgol prif lif. Ar hyn o bryd rydym yn comisiynu cronfa o athrawon a gweithwyr ieuenctid cymwys sydd â llu o sgiliau, yn cynnwys hyfforddiant mewn cwnsela a rheoli dicter i weithio ar sail un i un gyda phlant sy'n derbyn gofal ym Merthyr Tudful. Derbyniwyd y gwasanaeth hwn hefyd i gynnig cefnogaeth ddwys i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi profi methiant mewn lleoliad gofal cymdeithasol ac sy'n disgwyl mynd i ysgol newydd, ac i ddisgyblion unigol sydd mewn perygl o gael eu heithrio neu sydd ddim yn ymdopi yn eu lleoliad addysgol presennol. Caiff pob achos ei asesu ar sail unigol a gweithredir pecyn o ‘gefnogaeth gofleidiol’. Comisiynir cyngor gan Seicolegydd Plant Addysgol yn breifat ar gyfer y disgyblion hynny sydd fwyaf bregus er mwyn cefnogi trefniadau ysgol a lleoliad cyfredol. Fel awdurdod rydym yn sylweddoli'r angen i ddatblygu dulliau tymor hir gydag ymarfer effeithiol wrth eu gwraidd. Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio cynlluniau sy'n anelu at gyflwyno ar sail tymor hir. Enghraifft o hyn yw hyfforddi'n gofalwyr mewnol i gyflwyno pecynnau llythrennedd i'r bobl ifanc maent yn eu maethu. Mae'r prosiect A.R.R.O.W (Clywed Darllen Ymateb Siarad Ysgrifennu) yn cael ei ddefnyddio gan ofalwyr sydd eisiau cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd o dan anfantais oherwydd dyslecsia, neu broblemau darllen, sillafu, gwrando, siarad a chyfathrebu. Sylweddolwn yr angen i gynyddu cymryd rhan a mwynhau dysgu o oed mor ifanc â phosibl. Drwy grant Rhagori rydym wedi llunio nifer o becynnau adnoddau llythrennedd a rhifedd rhyngweithiol mewn ymgais i godi perfformiad ar Gyfnod Allweddol 2 a 3. Bu'r ymyriad hwn yn gweithio ochr yn ochr â phrosiectau gwerthfawr fel y ‘Letterbox Club’ ac ‘A book of my own project’. Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau blaenorol, rydym yn parhau i gynnig hyfforddiant aml-asiantaethol i staff addysgu penodedig, gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth drwy grant Rhagori. Cynhelir yr hyfforddiant hwn yn ychwanegol at yr hyfforddiant arferol a gyflwynir drwy fforwm y Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig, y Fforwm Penaethiaid a hyfforddiant Cynorthwywyr Cymorth Dysgu. Penderfynir ar natur yr hyfforddiant gan yr anghenion hyfforddiant sy'n bodoli. Enghreifftiau fu pynciau fel anhwylder ymlyniad a pharhauster i blant sy'n derbyn gofal.
Merthyr Tudful