
PDG - Gwynedd
Cynnig 2008-09
Yr ysgolion prif frwd yw’r darparwyr naturiol i sicrhau cyfleoedd i ddysgwyr gyrraedd lefel cyrhaeddiad sy’n briodol i’w potensial. Mae angen i ysgolion edrych ar anghenion y disgyblion sy’n blant mewn gofal, gan sicrhau’r amgylchiadau gorau iddynt trwy anogaeth a chefnogaeth y tu hwnt i’r hyn a ddarperir fel arfer. Yr oedd y dull o weithredu’r grant yn destun ymgynghoriad gyda’r Tîm Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Lles Addysg. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r grant i’r dibenion canlynol:- Cefnogi astudiaeth bellach, darparu bwrsariaeth gwerth hyd at £500 i ddisgyblion unigol i sicrhau darpariaeth briodol i’w cynorthwyo i sicrhau cymwysterau.
- Darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddisgyblion â phroblemau emosiynol ac ymddygiadol. Gwneir hyn trwy ryddhau oriau ychwanegol i ysgolion i’w cynorthwyo i wella presenoldeb a’u hannog i ymddwyn yn briodol fel bod modd iddynt barhau mewn addysg prif ffrwd a fydd yn arwain at ennill cymwysterau cydnabyddedig.
- Penodi hyfforddwyr dysgu teithiol a fydd yn cynorthwyo disgyblion unigol. Bydd yr hyfforddwyr hyn yn meithrin cysylltiadau agos gyda disgyblion unigol trwy:
- drefnu cymorthfeydd galw-i-mewn i ategu addysg;
- datblygu cysylltiadau agos rhwng y cartref a’r ysgol;
- cefnogi ymddygiad a hyrwyddo presenoldeb yn yr ysgolion;
- cydweithredu’n agos gyda sefydliadau Addysg Bellach lleol i sicrhau trefniadau pontio effeithiol;
- trefnu gweithgareddau priodol i gyfoethogi’r profiad dysgu i blant sy’n derbyn gofal.
Summary of Proposal
To support extra study to provide bursary to individual pupils up to a value of £300 to secure appropriate provision to support achieving qualifications
Ensure direct support for pupils with emotional and behavioural problems. Implemented through freeing up time for schools to support pupils to improve attendance and encouraqing them to behave appropriately to enable them to continue in mainstream education leading to their attaining a recognised qualification.
Designate a peripatetic learning coach to support individual pupils. The coach will create close links with individual pupils through:
- Set-up call-in surgeries to support education;
- Develop close links between the home and the school;
- Work jointly with local further education establishments to ensure effective transition;
- Arrange appropriate activities to enrich the educational experience of looked after children
The learning coach will develop individual folios for each pupil and set-up monthly reports on:
- The progress of the pupil;
- Attendance level and approach to education plan;
- Outline the extra support through the use of the bursary or other out-of-school activities
- Report on the view of the pupil on their aspirations and their needs
The LAC learning coach will meet regularly with the Link Officer for Children’s Services and the relevant EWO.
Summary of Activities to July 2007
- Gwelwyd yr angen i ddarparu i nifer o blant ar draws 13 o ysgolion uwchradd sy’n wasgaredig mewn rhanbarthau ar draws yr Awdurdod a sicrhau gwasanaeth effeithiol i’r disgyblion. Defnyddwyd y grant fel a ganlyn:
- Cefnogwyd astudio ychwanegol gan sicrhau bwrsari i ddisgyblion unigol o hyd at £500 ar gyfer sicrhau darpariaeth briodol i’w gynorthwyo i ennill cymwysterau.
- Sicrhawyd cefnogaeth uniongyrchol i ddisgyblion â phroblemau emosiynol ac ymddygiadol. Gweithredwyd drwy ryddhau oriau i ysgolion i gynorthwyo disgyblion i wella presenoldeb a’u cymell i ymddwyn yn briodol fel y bont yn gallu parhau gydag addysg prif lif fydd yn arwain at ennill cymhwyster cydnabyddedig.
- Penodwyd anogwr dysgu teithiol i gynorthwyo disgyblion unigol. Crëwyd cysylltiadau agos gyda’r plant unigol drwy:
- sicrhau ‘surgeris’ galw i mewn i gefnogi'r addysg;
- datblygu cysylltiadau agos rhwng y cartrefi a’r ysgol;
- cefnogi ymddygiad a hybu presenoldeb o fewn ysgolion;
- cydweithio’n agos gyda’r sefydliadau Addysg Bellach lleol i sicrhau trefniadau pontio effeithiol;
- trefnu gweithgareddau priodol ar gyfer cyfoethogi profiadau dysgu plant sy’n derbyn gofal.
- Datblygwyd ffolio unigol ar gyfer pob disgybl gan sicrhau adroddiadau ar:
- natur cynnydd y disgybl;
- lefel presenoldeb ac ymagweddu i gynllun addysg;
- amlinellu’r gefnogaeth ychwanegol drwy ddefnydd o ‘bursary’ neu weithgareddau allanol pellach;
- adroddiad ar lais y disgybl o ran eu dyheadau a natur ei anghenion.
- Mae’r anogwr dysgu plant mewn gofal yn cynnal cyfarfodydd cyson â’r Swyddog Cyswllt PMG (Tîm Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol) a gyda’r Swyddogion Lles Addysg perthnasol.
- Ar gychwyn y cynllun, roedd 14 o ddisgyblion Gwynedd yn blant mewn gofal yn ei blwyddyn olaf o addysg statudol sef blwyddyn 11. Allan o’r rhif yma roedd 4 plentyn yn derbyn eu haddysg yn all-sirol a 10 plentyn yn derbyn eu haddysg o fewn yr awdurdod. Roedd 8 o’r 10 plentyn yma yn derbyn addysg llawn amser o fewn ysgolion prif lif yr awdurdod a phob un ohonynt yn sefyll arholiadau TGAU neu TA. Roedd rhai o’r disgyblion yn gweithio tuag at gymwysterau eraill megis gwybod Dug Caeredin, ASDAN ac NVQ.
Our expectations:
Roedd yr Awdurdod Addysg yn ffyddiog y byddai’n bosib adnabod erbyn diwedd tymor yr haf:
- gwelliant yn y canran o gymwysterau cydnabyddedig, allanol y bydd y cohort o blant mewn gofal yn ennill o dan 16oed.
- gwelliant yn lefel presenoldeb y disgyblion o fewn y prif lif ac yn yr unedau cyfeirio.
- nifer uwch o ddisgyblion at risg o waharddiadau yn ymdopi â gofynion addysg prif lif, neu’n integreiddio’n llwyddiannus i addysg.
- cynnydd yn y niferoedd fydd yn symud ymlaen i dderbyn hyfforddiant bellach neu i gyflogaeth.
What happened:
Anogwr Dysgu:
Drwy benodi anogwr dysgu teithiol i gynorthwyo disgyblion unigol crëwyd cysylltiadau agos gyda’r plant unigol.
Bwrsari:
Gwelwyd llwyddiant yn y drefn o sicrhau bwrsari i ddisgyblion unigol o hyd at £500 ar gyfer sicrhau darpariaeth briodol i’w gynorthwyo i ennill cymwysterau - gweler yr adroddiad yn crynhoi canlyniadau Haf 2007.
Presenoldeb:
Canran presenoldeb disgyblion sy’n derbyn gofal tra mewn ysgolion uwchradd – 93.25%.
Impact:
Data a chanlyniadau Haf 2007 yn dangos:- gwelliant yn y canran o gymwysterau cydnabyddedig, allanol y bydd y cohort o blant mewn gofal yn ennill o dan 16oed.
- gwelliant yn lefel presenoldeb y disgyblion o fewn y prif lif ac yn yr unedau cyfeirio.
- nifer uwch o ddisgyblion at risg o waharddiadau yn ymdopi â gofynion addysg prif lif, neu’n integreiddio’n llwyddiannus i addysg.
- cynnydd yn y niferoedd fydd yn symud ymlaen i dderbyn hyfforddiant bellach neu i gyflogaeth.
Ysgolion yn croesawu’r drefn o sicrhau bwrsari ar gyfer disgyblion unigol ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth yr Anogwr Dysgu.
Gweithredu’r drefn o sicrhau bwrsari yn cynorthwyo disgyblion i ennill cymhwyster.
Cefnogaeth yr Anogwr Dysgu yn gaffaeliad mawr.
Gwynedd