PDG - Sir Fflint
Cynnig 2008-09
Bydd y cynnig am arian RAISE Plant sy’n Derbyn Gofal 2008—2011 yn parhau gyda’r un strategaeth ag o’r blaen.
Mae rôl y Cydlynydd Gwella Ysgolion wedi’i sefydlu.
- Mae proffil plant sy’n derbyn gofal yn uchel iawn ei barch yn yr AALl a’r Ysgolion.
- Mae cysylltiadau rhwng SIC Plant sy’n Derbyn Gofal, Gweithwyr Cymdeithasol a gofalwyr yn rhai positif. Mae hyn yn rheolaidd a chynyddol.
- Mae rôl y Mentoriaid Dysgu 14 – 19 oed yn werthfawr dros ben.
Yn ychwanegol at y cynnig gwreiddiol:
- O ganlyniad i fonitro rheoli perfformiad ac adborth cynyddol, mae swydd dros dro Gweinyddwr Plant sy’n Derbyn Gofal wedi’i chreu. Mae’n swydd un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei hadolygu’n chwarterol.
Crynodeb o’r Cynnig
Gosod cyfrifoldeb ar gyfer codi cyrhaeddiad Plant sy’n Derbyn Gofal o fewn un swydd - Cydlynydd Gwella Ysgolion Plant sy’n Derbyn Gofal.
- Bydd y swydd yn rhan o Wasanaeth Gwella Ysgolion a bydd yn adrodd wrth y Gwasanaeth Gwella Ymddygiad.
- Y cynnig yn cysylltu â datblygiad cyfochrog yn defnyddio arian Llwybrau Dysgu i benodi Hyfforddwr Dysgu Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghyfnod Allweddol 4.
- Prif ddyletswyddau Cydlynydd Gwella Ysgolion Plant sy’n Derbyn Gofal yw:
- Cynnig cymorth astudio gyda phwyslais ar Flynyddoedd 9-11.
- Hyfforddi athrawon a chynorthwywyr dysgu i alluogi cefnogaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal unigol, gan adnabod materion arbennig.
- Hyfforddi gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth unigol i hwyluso cefnogaeth addysgol.
- Cysylltu gyda gwasanaethau cynghori TGCh i ddarparu cefnogaeth ddysgu.
- Gwell monitro er mwyn galluogi ymyrraeth.
- Datblygu cysylltiadau cartref-ysgol.
- Cydweithio gyda sefydliadau Addysg Bellach a phartneriaid eraill.
- Cyswllt gyda Thîm Cefnogi Ymddygiad, rhieni a Phlant sy’n Derbyn Gofal ar gefnogi/rheoli ymddygiad.
- Cymorth ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion neu ddarpariaeth arall y tu allan i ysgol i hwyluso atgyfaniad.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Cyfuno peth ariannu Plant yn Gyntaf gyda Rhagori i brynu:
- gwersi cerddoriaeth a drama
- ymarferion adeg arholiadau a chyn perfformiadau
- Ysgol Adolygu’r Pasg
- canllawiau astudio a llyfrau testun
- 5 o gyfrifiaduron bwrdd gwaith i ymarfer sgiliau TGCh
- 4 o gyfrifiaduron gliniadur i gynorthwyo gyda chwblhau gwaith cwrs
- offeryn cerdd
- hyfforddiant ar ôl ysgol
- pecynnau offer ar gyfer astudiaethau galwedigaethol (gwallt a harddwch ac arlwyo)
- Teithiau addysgol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal sy’n byw gyda rhieni.
- Defnyddiwyd y grant Rhagori i ariannu’r swydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal i alluogi rhyddhau’r swyddog o’i ddyletswyddau Swyddog Adolygu Annibynnol.
Effaith
- Cyflawnodd yr holl bobl ifanc a safodd yr arholiadau yn ôl y disgwyl
- Roedd y canlyniadau TGAU yn rhagorol ar gyfer 5 o bobl ifanc
- Cafwyd hunan-barch uwch
- Aeth 10 o bobl ifanc yng Nghyfnod Allweddol 4 ymlaen at Addysg Bellach
- Enillodd y person ifanc ag 11 TGAU hefyd Radd 7 mewn ffliwt a bellach mae’n chwarae’r picolo a’r piano
- Gwell ymwybyddiaeth a chodi proffil plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion
- Athrawon unigol yn cymryd diddordeb gweithredol wrth olrhain disgyblion
- Llwyddodd yr holl blant yn y cwricwlwm amgen gan gynnwys Uned Cyfeirio Disgyblion ac addysg yn y cartref i gyflawni yng Nghyfnod Allweddol 4