
PDG - Sir Ddinbych
Cynnig 2008-09
- Datblygu pecynnau ychwanegol sydd â’r nod o ddiwallu anghenion pob disgybl sy’n derbyn gofal y mae Sir Ddinbych yn gweithredu fel Rhiant Corfforaethol ar eu rhan er mwyn eu hannog i ymgysylltu ag addysg ac i ddarparu cyfleoedd i hyrwyddo canlyniadau gorau.
- Trefnu cyfarfodydd cefnogi ar gyfer disgyblion CA3 a CA4 sy’n cynnwys pob partner, i ganfod anghenion y plant unigol sy’n derbyn gofal ac i gynllunio cefnogaeth ar eu cyfer.
- Darparu llyfrynnau TGAU ac adnoddau eraill.
- Hyfforddiant ychwanegol mewn hyd at dri phwnc i bob disgybl i’w paratoi ar gyfer TGAU ac arholiadau ac asesiadau eraill.
- Cyfranogi yn y prosiect Phoenix sy’n rhaglen addysgol ddwys iawn a ddarperir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub
- Arian ar gyfer gwersi allgwricwlar ac ymweliadau addysgiadol. Rhoddir pwyslais arbennig ar gymorth i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a all elwa’n fawr ar weithgareddau o’r fath; ond, hefyd, ar drefniadau sy’n cael eu trefnu’n unigol.
- Darparu cymorth cynorthwyydd athro ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd neu sydd am resymau eraill yn cael problemau yn yr ysgol. Mae’r prif bwyslais yn cael ei roi ar gymorth bugeiliol a mentora.
- Darparu cefnogaeth i ganiatáu i Athrawon Dynodedig mewn ysgolion uwchradd gael eu rhyddhau o’u dyletswyddau dysgu i fynychu cyfarfodydd cyswllt y Cydlynydd Plant sy’n Derbyn Gofal bob tymor. Byddai hyn yn gyfle i gydgynllunio, rhannu arferion da rhwng ysgolion a hefyd i ddarparu hyfforddiant penodedig i wella ansawdd y gwaith gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal mewn Ysgolion.
- Digwyddiadau Cymorth i Ofalwyr Maeth – rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth ymhlith pob asiantaeth sy’n cefnogi plant yn yr Ysgol. Cyfle i rwydweithio a derbyn cyngor a gwybodaeth am wasanaeth cefnogi.
Crynodeb o’r Cynnig
- Sefydlu pecynnau ychwanegol gyda’r nod o ddiwallu anghenion pob disgybl o blith y plant sy’n derbyn gofal sydd â rhieni yn Sir Ddinbych, i’w hannog i fanteisio ar addysg ac i roi cyfleoedd i bawb hyrwyddo’r canlyniadau gorau .
- Gwella’r prosiectau a gafodd gefnogaeth gan Gronfa Ysgolion Gwell yn y gorffennol.
- Trefnu cyfarfodydd cynorthwyo ar gyfer disgyblion CA4 a fyddai’n cynnwys pob partner, i nodi anghenion unigol Plant mewn gofal a chynllunio cymorth ar eu cyfer
- Darparu llyfrynnau TGAU ac adnoddau eraill.
- Cynnig sesiynau tiwtora unigol ychwanegol mewn hyd at dri phwnc i bob disgybl, gan dargedu pynciau oedd yn agos at y band A-C yn TGAU.
- Darparu cyfleusterau TGCh i gynorthwyo disgyblion, yn ogystal â chysylltiadau rhyngrwyd â chartrefi maeth. Targedu 10 disgybl ar gost o £750 y disgybl.
- Ariannu gwersi allgyrsiol a theithiau addysgol. Canolbwyntio’n arbennig ar helpu disgyblion sydd ag AAA, sy’n gallu elwa’n fawr ar weithgareddau o’r fath; ond canolbwyntio hefyd ar drefniadau unigol.
- Darparu help cynorthwywyr addysgu i ddisgyblion unigol sydd mewn perygl o’u heithrio neu a fyddai mewn trafferthion yn eu lleoliad addysgol fel arall. Canolbwyntio’n benodol ar gymorth bugeiliol a mentora.
- Darparu athrawon cyflenwi er mwyn i Athrawon a Ddynodwyd mewn ysgolion uwchradd gael eu rhyddhau rhag dyletswyddau addysgu at ddiben adolygu ac addasu Cynlluniau Addysg Personol. Dylid gwneud hyn dridiau y flwyddyn ym mhob un o’r 8 ysgol berthnasol, ar gost o £185 y diwrnod.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Darparu llyfrynnau TGAU, meddalwedd Wordshark Literacy, gwerslyfrau darllen ac adnoddau eraill
- Tiwtora preifat ychwanegol
- Tiwtoriaid cartref
- Arian ar gyfer gwersi allgyrsiol a theithiau addysgol
- Arian i alluogi disgyblion i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin.
- Arian er mwyn eu galluogi i fanteisio ar wasanaethau ar gyfer atal eithrio
- Hyfforddiant ar gyfer Athrawon a Ddynodwyd mewn Ysgolion Uwchradd mewn perthynas ag adolygu ac ag addasu Cynlluniau Addysg Personol.
- Darparu help cynorthwywyr addysgu i helpu disgyblion i gadw lle mewn ysgol prif ffrwd
- Cwnsela gan yr adran Seicoleg Addysgol ar golled, rheoli tymer, meddwl am y canlyniadau a rhaglenni llythrennedd emosiynol ar y cyd â rhieni/gofalwyr.
Effaith:
- Er bod rhai’n amharod ar y dechrau, ymatebodd y disgyblion yn dda iawn ar y cyfan gan gymryd rhan lawn yn y sesiynau tiwtora ychwanegol.
- Cyflwynodd y Tiwtoriaid Cartref adroddiadau hynod o gadarnhaol.
- Rydym wedi cael ymateb da iawn hefyd gan y bobl ifanc o ran y gweithgareddau allgyrsiol a’r teithiau preswyl y mae disgyblion wedi gallu bod yn rhan ohonynt yn sgîl y grant hwn.
- Sylweddolodd ysgolion y gwahaniaeth yr oedd Cynorthwywyr Addysgu yn ei wneud yn achos disgyblion unigol o ran eu cynorthwyo i gadw eu lle mewn ysgolion prif ffrwd. Mae gwaith y Seicolegydd Addysg wedi cael effaith gadarnhaol amlwg ar ddisgyblion yn yr Ysgol.
- Mae’r grant Rhagori wedi esgor ar agwedd meddwl newydd yn yr awdurdod sy’n ein hannog i feddwl am bethau eraill yr hoffem eu newid yn y dyfodol
Sir Ddinbych