
PDG - Conwy
Cynnig 2008-09
- Bydd yr Awdurdod yn darparu Hyfforddiant ar ofynion Addysgol Statudol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn dosbarthu pecynnau adnoddau, sy’n cael eu hariannu gan Grant Gwella Cysylltiadau, i ‘Athrawon Dynodedig,’ Ymarferwyr Addysg eraill a Llywodraethwyr Ysgol i wella dealltwriaeth ‘Athrawon Dynodedig’, Ymarferwyr Addysg eraill a Llywodraethwyr Ysgol am y gofynion addysgol statudol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a thrwy hynny hwyluso anghenion disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgolion.
- Er mwyn gwella lefelau diwedd CA2,CA3 a chanlyniadau TGAU ar gyfer Disgyblion sy’n Derbyn Gofal, bydd yr Awdurdod yn darparu pecynnau cymorth TG a chymorth dysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion CA2,CA3 a blwyddyn 10 ac 11 i’w cynorthwyo i gwblhau gwaith cwrs, gwaith cartref a gweithgareddau adolygu.
- Bydd yr Awdurdod yn darparu hyfforddiant i Weithwyr Cymdeithasol a Gofalwyr Maeth i wella dealltwriaeth Gweithwyr Cymdeithasol a Gofalwyr Maeth am ofynion statudol disgyblion sy’n Derbyn Gofal a thrwy hynny eu galluogi i wella cymorth, cymhelliant a rhoi sylw i anghenion unigol.
- Er mwyn darparu ymyrraeth gynnar mewn gweithgareddau Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer disgyblion CA2 a CA3, bydd yr Awdurdod yn darparu sesiynau cymorth Llythrennedd/Rhifedd un i un wythnosol gan gynorthwyydd Cymorth Dysgu, i dargedu 6 disgybl fesul tymor, yn yr ysgolion. Bydd y gweithgareddau yr ymgymerir â hwy’n ddibynnol ar anghenion y disgyblion unigol ac ar y gwaith dosbarth a wneir a thrwy hynny sicrhau dilyniant a pherthnasedd.
Crynodeb o’r Cynnig
- Hyfforddiant: llunio pecyn adnoddau ar gyfer athrawon dynodedig Plant sy’n Derbyn Gofal o fewn ysgolion; dylid gwneud hyn mewn ymgynghoriad gyda’r holl bartneriaid perthnasol. Dilynir ymlaen ar hyn gyda hyfforddiant ar draws y sir.
- Cynhelir hyfforddiant ychwanegol yn flynyddol ar gyfer gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol, yn targedu 15 o weithwyr fesul sesiwn. Gobeithir ychwanegu at yr un Hwylusydd Iechyd ac Addysg.
- Dyblu’r gefnogaeth astudiaeth ychwanegol gyfredol ar gyfer:
- Disgyblion sy’n paratoi ar gyfer arholiadau allanol;
- Disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig;
- Anghenion arbennig eraill.
- Prynu cyfrifiaduron gliniadur, meddalwedd i'w defnyddio ar bob Cyfnod Allweddol a darparu mynediad i'r rhyngrwyd er mwyn hwyluso adolygu ar gyfer Blynyddoedd 10-13. Hefyd, darparu hyfforddiant ar gyfer Gofalwyr Maeth ar ddefnydd priodol ac effeithiol o’r adnoddau.
- Darparu cefnogaeth rhifedd ychwanegol trwy Gynorthwywyr Cymorth Rhifedd er mwyn caniatáu ymyrraeth gynnar ar lefel gynradd. Bydd hyn yn cyfoethogi cefnogaeth llythrennedd cyfredol.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Hyfforddiant cartref ychwanegol neu gefnogaeth ddysgu naill ai yn y cartref neu yn yr ysgol
- Roedd pecynnau TG gan gynnwys cyfrifiaduron gliniadur, mynediad at y rhyngrwyd a deunyddiau adolygu ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2006-2007 er mwyn hwyluso gwaith cwrs ac adolygu.
- Cynllunio a pharatoi pecynnau adnoddau ar gyfer athrawon dynodedig
- Gweithgareddau sy’n hyrwyddo disgyblion i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysg eu hunain
Effaith:
- Mynegodd y disgyblion a’r gofalwyr fel ei gilydd eu diolch ar y ddarpariaeth hyfforddiant ac fe fynegwyd gwerth yn y gwaith a wnaed gan y tiwtoriaid wrth baratoi’r disgyblion ar gyfer eu harholiadau.
- Aeth 87.5% o Blant sy’n Derbyn Gofal Blwyddyn 11 Conwy'r llynedd ymlaen i naill ai addysg bellach neu’r byd gwaith ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
- Sicrhaodd cysylltiadau cyfathrebu gwell rhwng disgyblion, ysgolion, gofalwyr a thiwtoriaid fod y gweithgareddau yn ystyrlon ac yn berthnasol i’r paratoi ar gyfer arholiadau
- Roedd cefnogaeth gan fusnes lleol yn fenter/datblygiad newydd ar ran yr Awdurdod Addysg Lleol.
- Gwell ymwybyddiaeth yn yr Awdurdod Addysg Lleol o asesiad effeithiol disgyblion unigol
- Gwell rhwydweithio a chydweithrediad rhwng pob grŵp ar ran Plant sy’n Derbyn Gofal a chyda hwy.