
PDG - Ceredigion
Bu ALl Ceredigion yn unol â strategaeth RHAGORI Plant sy’n Derbyn Gofal yn rhedeg cyfres o fentrau i wella cyflawniad addysgol Pobl Ifanc yn y system gofal. Mae’r mentrau wedi targedu carfanau penodol o Blant sy’n Derbyn Gofal, sef rhai Blwyddyn 9, 10 ac 11. Nod y strategaeth yw cynnig cymorth penodol a strwythuredig i bob Plentyn sy’n Derbyn Gofal ym Mlynyddoedd 9, 10 ac 11 i gyflawni eu potensial yn llawn a chael achrediad cydnabyddedig ar ddiwedd Blwyddyn 11. Mae’r mentrau a fabwysiadwyd yn annog disgyblion i ymgysylltu a chyflawni, maent yn cwrdd ag anghenion disgyblion sydd ag anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol ac yn cefnogi unigolion sy’n dewis dilyn llwybr addysgol amgen.
Cefndir a chyd-destun
Mae Ceredigion yn awdurdod gwledig gyda phoblogaeth o tua 75,000. Mae ei phrif economi’n dibynnu ar dwristiaeth ac amaeth. Mae gennym 68 o ysgolion cynradd a 7 o Ysgolion Uwchradd prif ffrwd. Yn ogystal, datblygwyd Canolfannau Dysgu ac Addysgu, canolfannau arbenigol oddi ar y safle, i gynnig darpariaeth EOTAS ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae gan Geredigion boblogaeth ysgol o tua 10.000 o ddisgyblion. Mae mwyafrif y disgyblion yng Ngheredigion yn mynychu ysgol brif ffrwd. Does dim cyfleusterau UCD yng Nghyfnod Allweddol 3 ac mae nifer fach o’r disgyblion yn cael eu haddysgu y tu allan i’r sir o ganlyniad i anawsterau penodol. Hyd yn hyn, bu gan Geredigion tua 75 o ddisgyblion yn Derbyn Gofal gan yr Awdurdod Lleol ar unrhyw un adeg.Ffocws yn nhermau gweithgareddau RHAGORI/mentrau allweddol
Prif ffocws strategaeth RHAGORI yw codi lefelau cyflawniad addysgol yng Nghyfnod Allweddol 4. Am fod y garfan yn gymharol fach, llwyddodd Ceredigion i gwrdd ag anghenion unigolion, yn bennaf trwy bennu mentoriaid a thiwtoriaid, comisiynu Ieuenctid Cambria Youth i gefnogi disgyblion oedd ag anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol, sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael mynediad i gyfrifiaduron personol a meddalwedd priodol, yn ogystal â chefnogi a chynyddu pecynnau addysg amgen os a phan oedd angen. Cynigiwyd mentoriaid i’r holl ddisgyblion sydd ym Mlynyddoedd 9, 10 ac 11 ar hyn o bryd. Pan ymgysylltodd y mentoriaid yn dda, gan ffurfio perthynas bositif â’r person ifanc, bu’r canlyniadau’n rhai positif iawn. Mae wedi rhoi cysondeb i’r person ifanc, yn enwedig pan na fu’r lleoliadau’n llwyddiannus. I gefnogi’r rôl fentora, dynodwyd tiwtoriaid i ddysgu’r bobl ifanc os a phan oedd angen. Mae’r tiwtoriaid wedi canolbwyntio ar y pynciau craidd yn bennaf. Gweithiodd y strategaeth hon yn dda o ran cefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rhai a newidiodd ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae datblygu Canolfannau Dysgu ac Addysgu yn y tair ardal yng Ngheredigion wedi sicrhau cwricwlwm mwy cynhwysol sy’n cynnig dewis arall lleol ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n methu ymdopi ag addysg brif ffrwd. Mae’r cwrs ACCIPIO wedi galluogi myfyrwyr anodd eu cyrraedd i gael mynediad i gyrsiau TGAU trwy gyfrwng y cyfrifiadur. Mae strategaeth RHAGORI Plant sy’n Derbyn Gofal wedi galluogi Ceredigion i ariannu rhai pynciau ychwanegol ar gyfer rhai pobl ifanc sy’n dilyn ACCIPIO os a phan fo angen. Galluogodd y fenter hon rhai pobl ifanc i barhau i ddilyn cyrsiau oedd o ddiddordeb iddynt yn ogystal â phynciau craidd. Bu comisiynu Ieuenctid Cambria Youth yn llwyddiant mawr. Mae Ieuenctid Cambria Youth wedi llwyddo i ymgysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd gyda rhaglenni unigol. Gweithiodd y rhaglenni un i un ar hunan-barch ac ymddygiad derbyniol. Cytunir ar y rhaglenni fel rhan o raglenni Cymorth Bugeiliol, a thrafodir y nod a’r amcanion ar ddechrau’r sesiynau. Mae strategaeth RHAGORI Plant sy’n Derbyn Gofal wedi cael effaith bositif ar ddysgu a lles y disgyblion trwy gynnig- Cymorth ychwanegol i astudio – mentoriaid/tiwtoriaid;
- Datblygu cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol;
- Datblygu cyfleusterau TGCh ychwanegol;
- Cynyddu mynediad ac adnoddau mewn canolfannau galw heibio i gefnogi addysg;
- Cymorth i reoli ymddygiad;
- Y cyfle i bobl ifanc fynd ar ymweliadau ysgol ychwanegol i wella’u dysgu;
- Edrych ar gyfleoedd gwahanol ar gyfer achrediad;
Ceredigion