PDG - Sir Gaerfyrddin
Bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio Grant 'Rhagori' i ddarparu mentoriaid ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yr Awdurdod. Byddant yn
- Helpu myfyrwyr i gynllunio a chwblhau eu gwaith cartref a’u gwaith cwrs.
- Cynnig cymorth ymarferol ac anogaeth i fyfyrwyr ynghylch dysgu a chynllunio at eu dyfodol
- Hybu hunan-barch a hyrwyddo strategaethau ynghylch lles emosiynol
- Annog cyfranogi yng ngweithgareddau ehangach y Gwasanaeth Ieuenctid
- Cynnig gwobrwyon rhesymol yn ogystal â chlod ac anogaeth
- Gweithio at y cyrchnodau a bennwyd yn y Cynllun Addysg Personol
- Helpu â gwaith cartref a sgiliau astudio
- Cronni tystiolaeth ar gyfer achredu Sgiliau Sylfaenol
- Datblygu sgiliau adolygu
- Hyfforddi ynghylch technegau rheoli straen
- Darparu adnoddau astudio
- Helpu i gynllunio gwaith yn gyffredinol
- Bod yn hyblyg ac ymateb i anghenion y plentyn
- Darparu cyfrifiaduron côl a deunyddiau adolygu, pan fydd angen
- Cydgysylltu â thiwtoriaid os bydd angen
Pa ran sydd i gynllun 'Rhagori' yn yr agenda ehangach sy'n ymwneud â Phlant sy'n Derbyn Gofal yr Awdurdod (PDG) yn Sir Gaerfyrddin
Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r Grwp Cyfranogi PDG yn datblygu siarter ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, sef siarter ‘
KICC IT! Kids in Care Count!; mae plant sy’n derbyn gofal yn aelodau pwysig o'r broses cyf-weld a recriwtio ar gyfer y Gwasanaethau Plant; mae pobl ifanc a’r rhai sy'n gadael gofal yn datblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer Gofalwyr Maeth ac Athrawon Penodedig.
Mae Strategaeth Rhianta Corfforaethol sy'n cael ei gyrru yn ei blaen gan y Rheolwr Rhianta Corfforaethol sy'n arwain Tîm Rhianta Corfforaethol Amlasiantaethol. Mae Panel Rhianta Corfforaethol y mae Aelodau Etholedig a Swyddogion dethol yn gwasanaethu arno, yn sicrhau yr ymdrinnir ar draws yr Awdurdod â materion y mae plant sy'n derbyn gofal yn eu hwynebu.
Crynodeb o Weithgaredd Cynllun 'Rhagori' hyd yn hyn
- Mae Tiwtor 'Rhagori' wedi cychwyn yn ei swydd gan gynorthwyo plant, ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, athrawon penodedig a gweithwyr proffesiynol perthnasol.
- Darparu Hyfforddiant i Athrawon Penodedig ynghylch plant sy’n derbyn gofal.
- Darparu hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth.
- Darparu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol o nifer o asiantaethau.
- Hwyluso grwpiau cyfranogi ar gyfer y rhai hyn a'r rhai iau.
- Hyfforddi plant sy'n derbyn gofal ynghylch sgiliau cyf-weld a recriwtio.
- Darparu cyfrifiaduron ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, os bydd angen.
- Darparu tiwtora ychwanegol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, os bydd angen.
Gweithgaredd Arfaethedig 2009/2010
- Adeiladu ar y llwyddiant presennol a sicrhau mynediad at ystod o weithgareddau allgyrsiol gan ddarparu cymorth emosiynol a hybu hunan-barch.
- Hyrwyddo cymryd rhan ac ymgynghori ehangach â phlant sy'n derbyn gofal, drwy weithgareddau sy'n hwyl a hynny ar draws yr Awdurdod.
- Darparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer ysgolion, gofalwyr maeth, llywodraethwyr, y gwasanaeth ieuenctid a gwasanaethau'r sector gwirfoddol.
- Cynorthwyo'r Grwp Cyfranogi PDG i lunio'r siarter ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sef siarter ‘KICC IT! Kids in Care Count!
- Darparu tîm o fentoriaid dysgu i ddarparu cymorth wythnosol ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd Mentoriaid Cynllun 'Rhagori' yn:
- Helpu myfyrwyr i gynllunio a chwblhau eu gwaith cartref a’u gwaith cwrs
- Cynnig cymorth ymarferol ac anogaeth i fyfyrwyr ynghylch dysgu a chynllunio at eu dyfodol
- Hybu hunan-barch a hyrwyddo strategaethau ynghylch lles emosiynol
- Annog cyfranogi yng ngweithgareddau ehangach y Gwasanaeth Ieuenctid
- Cynnig gwobrwyon rhesymol yn ogystal â chlod ac anogaeth
- Gweithio at y cyrchnodau a bennwyd yn y Cynllun Addysg Personol
- Helpu â gwaith cartref a sgiliau astudio
- Cronni tystiolaeth ar gyfer achredu Sgiliau Sylfaenol
- Datblygu sgiliau adolygu
- Hyfforddi ynghylch technegau rheoli straen
- Darparu adnoddau astudio
- Helpu i gynllunio gwaith yn gyffredinol
- Bod yn hyblyg ac ymateb i anghenion y plentyn
- Darparu cyfrifiaduron côl a deunyddiau adolygu, pan fydd angen
- Cydgysylltu â thiwtoriaid os bydd angen
Effaith Gweithgaredd Cynllun 'Rhagori' hyd yn hyn
- Cynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu plant sy’n derbyn gofal
- Cynllun Gweithredu amlasiantaethol a rennir ac sy'n cefnogi plant sy’n derbyn gofal
- Meithrin hunan-barch ac ennyn diddordeb mewn cymryd rhan
- Gwella cyrhaeddiad
- Lleihau nifer y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Gwella cysondeb ar draws yr asiantaethau o ran cynorthwyo a rheoli plant sy’n derbyn gofal