
Caerdydd - 2008-09
Cynnig 2008-09
Mae’r Prosiect Cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 RAISE yn gweithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal i’w cynorthwyo a’u hannog yn eu dysgu. Mae’r tîm yn cynnwys athro arbenigol a mentor dysgu y mae eu hymagwedd gyfunol wedi llwyddo’n dda i ymgysylltu â disgyblion sy’n derbyn gofal. Mae peth o’r gwaith sy’n digwydd eisoes ac a fydd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn cynnwys:
Datblygu pecynnu dysgu ar gyfer pobl ifanc yn unedau preswyl Caerdydd. Mae’r pecynnau’n cynnwys popeth sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer yr ysgol, er enghraifft, beiros, papur, pinnau ffelt amlygu, ffolderi ayb. Yr oedd yr adborth a gafwyd gan y bobl ifanc sydd wedi’u derbyn yn wych, a darparwyd digon o becynnau ar gyfer preswylwyr y dyfodol hefyd.
Datblygwyd Diwrnod Hyfforddi Sgiliau Diogelwch Pobl Ifanc mewn cydweithrediad â Chanolfan Hyfforddi a Datblygu Gwasanaeth Tân Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Fe’i datblygwyd mewn ymateb i’r hyn a grybwyllwyd gan rai o’r bobl ifanc wrth drafod symud i fod yn annibynnol. Nod y diwrnod oedd gwneud y myfyrwyr yn ymwybodol o beryglon tân a sut i atal tân fel eu bod yn gwybod sut i ymateb mewn argyfwng i arbed bywydau ac eiddo. Yr oedd sesiwn cymorth cyntaf mewn argyfwng hefyd wedi’i chynnwys i alluogi’r bobl ifanc i wybod sut i ymateb yn ddiogel a rhoi cymorth mewn argyfwng. Bonws ychwanegol i’r bobl ifanc oedd cael gweld arddangosiad ymladd tân llawn gan yr ymladdwyr tân i ddangos sut y byddent yn ymladd tân mewn awyren. Cyflwynodd y ganolfan hyfforddi dystysgrifau wedi’u fframio a derbyniodd pob person ifanc becyn cymorth cyntaf personol. Hefyd crëwyd sioe luniau unigol ar gyfer pob person ifanc, wedi’i gosod i gerddoriaeth, sy’n dangos lluniau a dynnwyd ohonynt yn ystod y diwrnod. Roedd y diwrnod yn un pleserus iawn ond yn un a oedd wedi’i werthfawrogi’n fawr gan y rhai a gymerodd ran a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd sy’n dod.
Darperir grantiau unigol i ddisgyblion i sicrhau bod eu hanghenion penodol yn cael eu diwallu, un ai trwy ddarparu hyfforddiant ychwanegol, offer arbenigol neu ymweliadau addysgiadol. Yr oedd hyn yn sicrhau cydweithio agosach ag athrawon penodedig wrth asesu dysgu ac roedd hefyd yn galluogi cysylltiadau mwy clos gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant. Bydd y gwaith hwn yn parhau.
Yr oedd dyddiau hyfforddi i athrawon penodedig yn galluogi’r staff i gynnig golwg arall ar bethau ond roedd hefyd yn cynnig dimensiwn ychwanegol i athrawon, yn enwedig ar faterion sy’n gysylltiedig â phobl ifanc sy’n byw mewn unedau preswyl a’r disgyblion hynny sydd wedi symud yn aml o un lleoliad maethu i un arall. Hefyd, mae aelod o staff darparwr hyfforddi wedi mynychu’r hyfforddiant hwn fel ein tiwtor penodedig cyntaf. Defnyddiwyd y dull hwn hefyd i hyfforddi staff gofal cymdeithasol, a oedd yn cynnwys gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol a oedd newydd gwblhau’u cyfnod cynefino. Tynnwyd sylw at wella llythrennedd yn yr hyfforddiant a oedd yn cynnwys canu hwiangerddi. Darparwyd blwch o lyfrau i ddangos pa fath o ddeunydd darllen fyddai’n addas ar gyfer yr ifanc iawn ac ar gyfer darllenwyr mwy medrus, a hynny’n Gymraeg a Saesneg. Darparwyd adnoddau’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i ofalwyr maeth i’w defnyddio gartref ynghyd â thocyn llyfr a rhestr o wasanaethau llyfrgell lleol. Bydd y pecyn hyfforddi’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo llythrennedd mewn sesiynau hyfforddi yn y dyfodol.
Trefnwyd sesiynau ‘Cinio a Dysgu’ ar gyfer gweithwyr proffesiynol fel ffordd o rannu arferion da mewn ffordd anffurfiol. Mae’r rhain wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i staff prysur a oedd yn gallu mwynhau cinio a diweddaru’u gwybodaeth ar faterion addysg ar yr un pryd a chlywed hefyd sut y mae cyfnodau mewn gofal yn gallu cael effaith negyddol ar ddysgu. Roedd y rhai oedd yn ei fynychu’n cynnwys gweithwyr cyswllt yr uned breswyl a staff o’r gwasanaeth gadael gofal. Bydd y dull hwn yn cael ehangu ymhellach i gynnwys staff dysgu a gweithwyr cymdeithasol a fydd yn cael eu hyfforddi gyda’i gilydd.
Crynodeb o’r Cynnig
Ariannu prosiect newydd wedi’i reoli gan Dîm Cyswllt Ysgolion, i:- wella cyfathrebu a chydweithio;
- datblygu cysylltiadau gydag awdurdodau addysgu y tu allan i Gaerdydd; a
- chefnogi pontio Plant sy’n Derbyn Gofal at ddysgu neu gyflogaeth bwrpasol.
- Datblygu system fonitro ar gyfer olrhain lleoliad ysgol a gofal ar gyfer disgyblion y tu allan i Gaerdydd.
- Datblygu system fonitro i sicrhau presenoldeb ysgol priodol.
- Asesiadau addysg unigol er mwyn adnabod bylchau yng ngwybodaeth disgyblion, adnabod cyfleoedd ar gyfer:
- Cefnogi angen yn amserol;
- Cefnogaeth ddysgu, yn enwedig mewn perthynas â gwaith cwrs/adolygu; a
- Chefnogaeth mentora.
- Gwell cyswllt gyda’r holl bartneriaid sy’n gysylltiedig â Phlant sy’n Derbyn Gofal.
- Adnabod anghenion hyfforddi ymhlith staff.
- Datblygu Cynlluniau Dysgu Unigol yn ymdrin â’r cyfnod pontio rhwng Blwyddyn 9 ac 11.
- Datblygu Cynlluniau Addysg Personol i gefnogi’r symudiad tuag at wasanaethau cymorth byw’n annibynnol.
- Monitro ôl-16 i sicrhau bod addysg yn parhau i gael ei flaenoriaethu.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Cyflogi Mentor Dysgu i ailgysylltu Plant sy’n Derbyn Gofal
- Cyflogi Athro Arbenigol i gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal mewn ysgolion
- Swm bwrsariaeth penodol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal unigol
- Adolygu rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol
- Datblygwyd proffiliau disgyblion unigol ynghyd â Chynllun Addysg Personol Cyfnod Allweddol 4, yn cynnwys cynlluniau llwybr gyrfaol
- Datblygwyd llawlyfr ar gyfer gweithwyr proffesiynol
- Adolygu systemau ar gyfer newid statws o Blant sy’n Derbyn Gofal i Bobl sy’n Gadael Gofal
- Cyflogi staff gweinyddol dros dro er mwyn mewnbynnu data
- Prynwyd pecynnau dysgu ar gyfer plant unedau preswyl
Effaith :
- Teimlodd pobl ifanc eu bod ar yr un tir â’u cyfoedion trwy gael mynediad at eu bwrsariaeth unigol i brynu offer addysgol megis dillad arlwyo gwyn
- Galluogwyd rhaglenni dysgu unigol ar gyfer y rheini nad oeddynt yn alluog i gyflawni safonau TGAU
- Mae plant mewn unedau preswyl wedi elwa o berthynas cryf gyda mentor dysgu
Caerdydd - 2008-09