
PDG - Caerffili
Mae AALl Caerffili wedi ymgymryd ag adolygiad o’u gwasanaethau i blant clwyfadwy, a chanlyniad hyn oedd ailstrwythuro arwyddocaol. Yn flaenorol, roedd gweithwyr cymorth plant sy'n derbyn gofal wedi cwympo o dan orchwyl cymorth ychwanegol, ond nawr o dan orchwyl y Tîm Diogelu, maent yn gallu ffurfio perthnasau gweithio agosach gydag asiantaethau partner allweddol. Hefyd, gan fod diogelu yn fan cyswllt canolog ar gyfer yr AALl ym mhob mater sy’n ymwneud â phlant clwyfadwy, mae rôl y gweithiwr/wraig cymorth plant sy'n derbyn gofal yn dod yn fwy cydnabyddedig gan bartneriaid. Roedd y Tîm Diogelu yn gyfan wedyn yn gallu asesu perfformiad y blynyddoedd blaenorol, adnabod cryfderau a diffygion ac yna teilwra ein gwasanaethau i anghenion ein pobl ifanc.
Yn wreiddiol, cynigiwyd y byddai’r gweithwyr cymorth yn cael swyddogaethau penodol, un gyda gorchwyl ymddygiad, y llall ar gyfer gofalyddion maeth. Ers hynny, rydym wedi nodi mai canlyniad rhannu’r swyddogaethau yn y modd hwn oedd bod y gwasanaeth yn cael ei ddyblygu ar gyfer rhai pobl ifanc. Er mwyn egluro tasgau’r gwasanaeth, mae pob gweithiwr/wraig nawr yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer y ddwy dasg. Mae eu gwaith yn lle yn cael ei rannu gan ardal dalgylch. Maent yn ymgymryd â holl dasgau gwasanaeth yn eu hardal ddaearyddol eu hunain. Mae hyn wedi hwyluso cysylltiad gwell gydag ysgolion unigol ac athrawon dynodedig. Yn bwysicach na hyn, mae wedi lleihau’r effaith o nifer o bobl broffesiynol ym mywydau Pobl Ifanc ac wedi caniatáu mwy o berthnasau a chysylltiadau ansoddol rhwng y bobl ifanc a’r gweithwyr cymorth.
Gall atgyfeiriadau at wasanaethau gael eu gwneud gan yr AALl cartref neu’r ysgol unigol lle y mae’r Bobl Ifanc yn cael eu haddysgu. Mae’r Tîm Diogelu yn ymrwymedig i wasanaeth cydradd ar gyfer yr holl Blant Sy’n Derbyn Gofal, gan eithrio eu AALl, a byddant yn ceisio am drefniadau cilyddol ar gyfer Plant Caerffili Sy’n Derbyn Gofal a leolir y tu allan i’n Sir.
Mae gweithwyr Plant Sy’n Derbyn Gofal Rhagori wedi amrywio’r ystod oedran i sicrhau eu bod yn cysylltu gyda disgyblion cyn iddynt ddod yn hollol rydd yn eu haddysg. Rydym wedi gwneud cysylltiadau gwych gyda’n cydweithwyr yn llwybrau 14-19 ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Mae amrywio’r cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn academaidd, gan sicrhau bod y bobl ifanc hynny yn cael pob cyfle i lwyddo, yn flaenoriaeth glir ar gyfer y Tîm.
Caerffili