
PDG - Pen-y-bont ar Ogwr
Cynnig 2008-09
- parhau i gyflogi cydlynydd RAISE a fydd yn monitro ac olrhain pob disgybl CA4
- L.S.O. – cynorthwyo pobl ifanc sy’n mynychu’r ganolfan dysgu CA4 amgen, rhoi sylw i ymddygiad, gweithio i wella presenoldeb, cynorthwyo rhai sydd mewn perygl o gael eu gwahardd a chynorthwyo ailintegreiddio neu symudiadau a reolir ar gyfer disgyblion wedi’u gwahardd.
- cymorth astudio arbenigol mewn meysydd pwnc allweddol yn y ganolfan hyfforddi, yn y cartref ac ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd wedi’u lleoli y tu allan i CBS Pen-y-bont ar Ogwr.
- cymorth Seicoleg Addysgol ychwanegol a monitro disgyblion CA4
- prynu gweithgarwch cwricwlaidd ategol amgen
- cymorth gweinyddol i gydlynu a rheoli’r gweithgareddau uchod
- datblygu pecyn adnoddau ar gyfer athrawon dynodedig Plant sy’n Derbyn Gofal
- darparu cyfleusterau TGCh i gynorthwyo disgyblion CA4
- cyllid ar gyfer gweithgareddau allgwricwlar a thripiau
- seremoni wobrwyo flynyddol
- mentora cymheiriaid
- datblygu cysylltiadau pellach a dyddiau blasu mewn prifysgolion
Crynodeb o’r Cynnig
- Defnyddio’r ganolfan hyfforddi sy’n cael ei sefydlu gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- Cefnogaeth astudio arbenigol mewn meysydd pynciau allweddol yn y ganolfan neu yn y cartref.
- Darparu cyfleuster galw i mewn trwy fynediad at y ganolfan hyfforddi.
- Cefnogaeth a monitro seicoleg addysg ychwanegol ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4.
- Cynorthwywyr cymorth ymddygiad ychwanegol yn y ganolfan, yn yr ysgol neu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion priodol.
- Caledwedd TGCh a meddalwedd a phecynnau dysgu priodol i gefnogi dysgu
- Gweithgareddau cwricwlwm cyflenwol amgen, a chefnogaeth weinyddol ar gyfer cydlynu a rheoli’r rhain.
Crynodeb o Weithgareddau hyd at fis Gorffennaf 2007
- Archwilio Cynlluniau Addysg Personol i sicrhau bod anghenion addysg a datblygu, targedau cyrhaeddiad clir a chynlluniau a dyheadau hirdymor yn cael eu cynnwys.
- Cyswllt unigol i hyrwyddo diwylliant ‘ymuno'
- Cyfleuster galw i mewn yn y ganolfan hyfforddi i geisio cyngor, cefnogaeth astudio, offer TG a mynediad at y Rhyngrwyd
- Ailgysylltu gyda dysgu yn cynnwys pecynnau cwricwlwm amgen a newid agweddau tuag at ddiffyg presenoldeb
- Cefnogi ysgolion a phobl ifanc wrth atal gwaharddiad
- Eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc
- Diwrnod blasu ym Mhrifysgol Morgannwg. Trefnwyd gweithdai, darparwyd cinio a chyfle i ymweld â’r neuaddau preswyl ac i gwrdd â myfyrwyr, profi bywyd Prifysgol a chodi eu dyheadau o ran Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
- Gwyliau gweithgareddau preswyl awyr agored yn Sir Benfro. Roedd hwn yn gwrs 4 diwrnod, 3 noson, yn llawn profiadau heriol a chyffrous.
- Dathliad Gwobr Maer ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, gyda Rhieni Corfforaethol, Aelodau Cabinet, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn bresennol
- Prynu Rhith Becyn Dysgu TGCh ar gyfer y rheini sy’n byw yn ein cartrefi plant
Effaith:
- Ymgynghoriad gyda phobl ifanc wedi arwain at gynllunio mwy gwybodus
- Pecynnau cwricwlwm amgen – galluogodd hyn i nifer o’n pobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth gael mynediad at ddysgu ac atal gwaharddiad.
- Gweithgaredd Awyr Agored – meithrin sgiliau tîm, parch a chefnogi eraill. Profi fod unrhyw ymdrech, waeth pa mor fach, yn cael ei ystyried yn llwyddiant.
- Gwobrau Maer – codi dyheadau, gwobrwyo a dathlu llwyddiant, hefyd cydnabod cyfrifoldeb Rhiant Corfforaethol.
- Aeth 4 o bobl ifanc ymlaen at Addysg Bellach, mae 2 bellach yn y Brifysgol a 4 yn mynychu cyrsiau hyfforddi o ganlyniad i’r diwrnod blasu.