
PDG - Blaenau Gwent
Mae mentoriaid Plant sy’n Derbyn Gofal RAISE yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda’n plant ifanc sy’n derbyn gofal gan anelu i gynyddu eu cyrhaeddiadau academaidd. Aseinir mentor i’n holl bobl ifanc sy’n derbyn gofal yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Mae mentoriaid RAISE yn gwneud amrywiaeth o waith yn cynnwys monitro gwaith cwrs, datblygu sgiliau adolygu/sgiliau astudio, monitro cynnydd a gwaith pwnc penodol [gwaith dosbarth a gwaith cartref]. Mae cefnogaeth mentoriaid yn parhau i gael ei deilwra i ateb anghenion unigol ac yn ogystal â’r ffocws academaidd, mae’r gefnogaeth yn anelu i godi hunanbarch a chynorthwyo gyda datblygiad personol ac emosiynol, gyda mentoriaid yn canolbwyntio ar ddyheadau ar gyfer y dyfodol ac eirioli ar ran disgyblion. Mae’r defnydd o gefnogaeth mentora yn parhau i fod yn dda gyda 67% o blant oedran ysgol uwchradd sy’n derbyn gofal wedi cyrchu cefnogaeth mentora yn wirfoddol hyd yma yn y flwyddyn academaidd hon. Rhoddir cefnogaeth mentor i bobl ifanc o fewn eu gosodiad addysg neu mewn lleoliadau meithrin a lleoliadau eraill os dymunir. Er bod y galw am gefnogaeth mentora wedi cynyddu, rydym yn cefnogi nifer fwy o ddisgyblion ac yn eu monitro’n llawer mwy effeithiol.
Mae mentoriaid RAISE yn rhoi canolbwynt cyswllt ar gyfer ysgolion a’n pobl ifanc, gan arwain at well cyfathrebu gyda phawb sy’n gysylltiedig. Mae cefnogaeth mentora yn awr yn rhan greiddiol o’r cynllunio cyffredinol yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal ym Mlaenau Gwent. Mae mentoriaid yn parhau i gysylltu gyda phob ysgol lle caiff ein plant eu gosod. Mae monitro effeithiol ar gynnydd addysgol ein plant sy’n derbyn gofal yn dynodi meysydd lle mae’r bobl ifanc angen cefnogaeth ac yn galluogi mentoriaid RAISE i ymyrryd ar y cyfle cynharaf a sicrhau y caiff cefnogaeth mentora ei ddyrannu mewn modd priodol. Mae’r gwerthusiad blynyddol o gefnogaeth mentora a gynigiwyd wedi cadarnhau fod yn rhaid i’r gefnogaeth barhau’n hyblyg gyda llawer o bwyslais ar yr ymagwedd bersonoledig at ddysgu.
Mae rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng mentoriaid ac aelodau staff yn parhau i sicrhau y rhoddir lefel addas o ddealltwriaeth i bobl ifanc sy’n derbyn gofal. Mae cyswllt wyneb i wyneb a ffôn rheolaidd rhwng mentoriaid, gofalwyr maeth ac ysgolion yn sicrhau y caiff materion eu trin yn brydlon. Mae cyfathrebu gwell rhwng lleoliadau ac ysgolion wedi cyfrannu at fwy o ddealltwriaeth o bwysigrwydd addysg o fewn y gosodiad craidd.
Mae cynllunio pontio yn digwydd rhwng cyfnod allweddol 3 a 4 ac o gyfnod allweddol 4 i addysg ôl-16. Mae’n debygol y bydd ein holl blant blwyddyn 11 sy’n derbyn gofal yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau cydnabyddedig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae mentoriaid RAISE wedi gweithio gyda darparwyr addysg eraill i sicrhau mynediad i gwricwlwm amrywiol ar gyfer ein holl blant sy’n derbyn gofal nad ydynt yn dilyn cyrsiau TGAU prif ffrwd. Caiff protocol ei lansio ym mis Gorffennaf i gefnogi plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal yn mynychu Coleg Gwent.
Mae hyfforddiant yn parhau i gael ei ddarparu ac mae rhaglen dreigl flynyddol o hyfforddiant ar waith. Ymddengys fod gofalwyr maeth yn neilltuol yn llawer mwy ymwybodol o’r system addysg yn ei chyfanrwydd ac yn awr yn hyrwyddo cynnydd addysgol o fewn y cartref.
Blaenau Gwent