Adnoddau Addysgu > CA4 > Hamdden a Thwristiaeth > Sgiliau Meddwl mewn Teithio a Thwristiaeth - Uned 3
Sgiliau Meddwl mewn Teithio a Thwristiaeth - Uned 3
Canolfan Hamdden, Dan-yr-Ogof, Sgïo, Gweithio mewn Parciau Cenedlaethol
Mae’r deunyddiau hyn wedi cael eu cynllunio i ategu agenda APADGOS ar gyfer datblygu sgiliau meddwl ac asesu ar gyfer dysgu ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau teithio a thwristiaeth, gan gynnwys:
- TGAU mewn Hamdden a Thwristiaeth
- OCR Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth
- Teithio a Thwristiaeth Cyntaf BTEC
- UG mewn Teithio a Thwristiaeth
Mae’r deunyddiau hyn wedi cael eu hisrannu yn dair Uned, a phob un yn cynnwys pum pwnc:
Uned 3 – Gweithrediad sefydliadau hamdden a thwristiaeth a chyflogaeth
- Dynamic Rock
- ‘Canolfan Hamdden’
- Dan-yr-Ogof
- Sgïo
- Gweithio mewn Parciau Cenedlaethol
Mae datblygu meddwl yn galluogi dysgwyr i ennill dealltwriaeth ddyfnach o bynciau, i feddwl yn hyblyg a gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau rhesymedig.
Mae pob un o’r pynciau yn cynnwys cyfres o weithgareddau sgiliau meddwl, wedi’u hategu gan wybodaeth gryno am y pwnc.
Awgrymir bod y gweithgareddau’n cael eu cyflawni yn gyntaf cyn i ddysgwyr gael y wybodaeth ategol.
Mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio i alluogi dysgwyr i feddwl am y pwnc. Nid yw o bwys os ydyn nhw’n gwneud camgymeriadau neu’n gwneud pethau’n anghywir!
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
Adnoddau hefyd gyda'r tag..
