Adnoddau Addysgu > CA1 > Cymraeg Ail Iaith > Cân Dydd Gwyl Dewi

Cân Dydd Gwyl Dewi

Gwenno Dafydd / Heulwen Thomas
Ar Fawrth y Cyntaf 2005 roedd Gwenno Dafydd yn cerdded ar Orymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi (GGGD) yng Nghaerdydd ac yn canu cloch drom tebyg i’r clychau a ddefnyddiwyd gan Dewi Sant.

Daeth syniad i’w phen bod angen cân arbennig ar gyfer yr achlysur ac aeth ati i ysgrifennu geiriau ‘Cenwch y Clychau i Dewi’. Aeth a’r geiriau at ei phartner cerddorol Heulwen Thomas, ac fe ysgrifennodd Heulwen y dôn.