Drwy fentro y tu hwnt i glwyd yr ysgol, camu allan i’r byd y tu allan, bydd ymarferwyr dysgu yn tywys y plant o amgylch eu milltir sgwâr, a bydd y plant yn gwrando, gwylio a chael profiad o’r byd o’u hamgylch. Beth yw hwnna? Beth yw ei ddiben? Pwy sy’n byw yno? …. cwestiynau di-rif sy’n gallu arwain at ddarganfod a gwybodaeth am gymdogaeth y plant eu hunain a’u profiad o’r gymdogaeth
Bu’r gwaith hwn yn ffocws yn ysgolion Dinas a Sir Abertawe ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi derbyn cefnogaeth yr ymgynghorydd addysg Eileen Adams, sydd hefyd yn ymgynghorydd gyda Chomisiwn Dylunio Cymru.
Mae athrawon wedi gweld bod canolbwyntio ar yr egwyddorion addysgu a dysgu sy’n gysylltiedig â’r dull hwn wedi arwain at nifer o arferion ardderchog. Bellach, drwy GCaD Cymru, mae’n bosib rhannu’r arferion hyn gydag athrawon ac ymarferwyr dysgu dros Gymru gyfan. Cefais fy syfrdanu gan y canlyniadau ac rwy’n credu fod y dull gweithio hwn sy’n seiliedig ar sgiliau, sydd â phwyslais ar ddysgu yn yr awyr agored, yn berffaith ar gyfer cwmpasu egwyddorion gwaelodol y Cyfnod Sylfaen.
Mae dysgu yn yr awyr agored yn cael lle amlwg yng Nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.
Daeth pedwar o athrawon at ei gilydd i rannu’r holl ddulliau maen nhw wedi’u canfod sy’n golygu defnyddio’r amgylchfyd dysgu awyr agored – ei lefydd a’i fannau gwag, y rhai sydd wedi’u creu yn ogystal â’r rhai naturiol – adnodd dysgu cyfannol.
Aelodau prosiect Rhwydwaith Abertawe:
Rachel Jones, Naomi Gray, Faith James , Debbie Roberts a Carolyn Davies
