Cyfrannu i GCaD Cymru
Bydd y Gronfa Adnoddau Arloesol (CAA) yn darparu cyllid yn uniongyrchol i ysgolion/colegau er mwyn hyrwyddo datblygiad ystod eang o adnoddau addysgol gan ymarferwyr unigol neu grwpiau o ymarferwyr.
Bydd y rhaglen yn gweithredu dan yr amodau canlynol.
Cyllid
Amserlen
Y Cynnig
Y Deunyddiau
Cymeradwyaeth
Ffurflen Gais
Hawlfraint
- Cyllid
- bydd tâl o rwng £500 a £1,000 ar gael ar gyfer pob prosiect,
- lle bydd grwp o ymarferwyr yn cynhyrchu mwy o ddeunyddiau yna bydd cyllid ychwanegol ar gael – hyd at £6,000,
- yr ysgol/coleg neu’r ymarferwr fydd yn derbyn y tâl am ddeunyddiau a fydd yn cael eu cynhyrchu,
- gellir defnyddio’r cyllid i ryddhau ymarferwyr neu gellir ei drosglwyddo i ymarferwyr a fydd yn creu deunyddiau yn eu hamser eu hunain,
- os yw’r ymarferwyr yn gweithio yn eu hamser eu hunain ac am gael eu talu yn uniongyrchol yna dylid nodi hyn ar y ffurflen gais,
- bydd unrhyw daliadau a wneir i ymarferwyr yn agored i’w trethu gan Dreth y Wlad yn unol â’r cyfraddau arferol.
brig y dudalen
- Amserlen
- bydd angen cytuno ar amserlen glir a phendant i’r gwaith,
- yn arferol ni ddylai’r adnoddau gymryd mwy na 3 mis i’w paratoi wedi derbyn y llythyr cadarnhau,
- bydd trefn o sicrhau ansawdd yn digwydd yn ystod ac ar ddiwedd y gwaith. Bydd disgwyl i’r awduron ymateb i’r adborth a ddaw,
- bydd Swyddogion Datblygiad Maes (SDM) a swyddogion eraill GCaD Cymru yn cefnogi’r gwaith yn ystod cyfnod datblygu’r adnoddau.
brig y dudalen
- Y Cynnig
Bydd angen disgrifiad llawn o’r gweithgaredd arfaethedig gan GCaD Cymru gan ddefnyddio’r ffurflen bwrpasol a fydd yn cynnwys;- cyfeiriad at Gyfnod Allweddol ac oed y disgyblion/myfyrwyr y bwriedir y gwaith ar eu cyfer,
- amcanion a thargedau pendant ar gyfer y pwnc neu’r thema,
- cyfeiriad at ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol/Manyleb Arholiad,
- sut bydd deilliannau’r dysgu yn gwella,
yn ychwanegol at hyn rhaid i bob cynnig dderbyn cefnogaeth pennaeth yr ysgol/coleg.
brig y dudalen
- Y Deunyddiau
Dylai’r deunyddiau a gynhyrchir ateb y mwyafrif o’r gofynion isod gan;- ffurfio rhan o uned gyfan o waith sydd yn rhoi sylw i faes neu thema benodol,
- ffurfio rhan o adran neu isadran mewn manyleb neu gynllun gwaith,
- gynnwys elfennau rhyngweithiol atyniadol (e.e. defnyddio animeiddiad, sain a fideo) lle mae hynny yn briodol y gellid eu datblygu mewn partneriaeth â GCaD Cymru,
- gynnwys gweithgareddau ar gyfer addysgu'r dosbarth cyfan y gellid eu defnyddio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol,
- gynnwys gweithgareddau ymestynnol, gwaith gwahaniaethol, taflenni gwaith a gwaith cartref os yn berthnasol,
- gynnwys cyfarwyddiadau ac arweiniad cryno i ymarferwyr gan gynnwys awgrymiadau ynglyn â defnyddio’r gwaith ochr yn ochr ag adnoddau eraill,
- gymryd sylw o ofynion y Fframwaith Sgiliau lle mae hynny yn briodol gan ddangos yn glir sut mae’r adnoddau yn ymateb i’r gofynion megis sgiliau meddwl,
- gynnwys enghraifft o arfer da o ran defnydd o’r adnodd yn yr ystafell ddosbarth wedi ei gofnodi ar dempledi GCaD Cymru,
- gynnwys gwaith sydd wedi ei greu yn Gymraeg neu yn Saesneg neu yn ddwyieithog.
Mae GCaD yn sylweddoli na fydd pob prosiect yn cyfarfod a’r holl amodau hyn a byddwn yn hapus i drafod unrhyw gais rhesymol. Gellir ystyried derbyn prosiectau llai os ydynt yn addas.
brig y dudalen
- Cymeradwyaeth
Yn dilyn derbyn ffurflen CAA bydd aelod o staff GCaD Cymru yn trefnu i gyfarfod a’r ymarferwyr perthnasol i drafod manylion y cais.
Wrth gymeradwyo prosiectau bydd GCaD Cymru yn sicrhau;- bod yr adnoddau yn cydymffurfio a blaenoriaethau a strategaeth GCaD Cymru,
- nad oes deunyddiau tebyg eisoes ar gael ar wefan GCaD Cymru,
- bod yr adnoddau yn ateb gofynion prosesau sicrhau ansawdd GCaD Cymru,
- bod y cais yn seiliedig ar addysgedd cadarn, yn cynnig buddiannau o ran addysgu a dysgu ac yn cydymffurfio a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol,
- nad oes dyblygu o ran ffynonellau ariannu megis rhaglen CACC,
- bod gwaith yn cael ei ddatblygu ym mhob rhan o Gymru lle mae hynny yn bosibl.
brig y dudalen
Dylai ysgolion/colegau ac ymarferwyr sydd yn awyddus i wneud ceisiadau fod yn ymwybodol o’r amodau canlynol;
a. Bydd prosiectau addawol yn cael eu hadnabod gan Swyddogion Maes GCaD Cymru, swyddogion eraill GCaD Cymru, swyddogion AALl neu golegau.
b. Wedi adnabod prosiect addawol bydd angen i’r ysgol a’r athro/awes penodol lenwi ffurflen gais syml. Bydd y penderfyniad terfynol i dderbyn y prosiect yn seiliedig ar gynnwys y ffurflen hon.
c. Gellir adnabod prosiectau hefyd o ffurflenni a ddaw yn uniongyrchol at GCaD Cymru gan ymarferwyr.
ch. Lle mae angen i GCaD Cymru gynnig cymorth technegol gyda rhai agweddau o’r gwaith e.e. creu animeiddiad yna dylid trafod hyn gyda’r SDM.
d. Yr awduron fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw oblygiadau ynglyn â hawlfraint elfennau o’r gwaith yn cael eu datrys.
dd. GCaD Cymru fydd yn berchen pob hawl ar y deunyddiau – Hawlfraint y Goron.
e. Bydd y deunydd yn cael ei wirio o ran ansawdd ac yn dilyn y broses yma mae’n bosib y bydd gofyn i’r awdur ddiwygio’r gwaith.
f. Bydd disgwyl i’r ymarferwyr fod wedi defnyddio'r gwaith yn y dosbarth ac yn gallu llenwi'r templedi Arfer Da.
ff. Bydd hawl gan GCaD Cymru i addasu, datblygu a golygu'r deunyddiau yn ôl y gofyn.
g. Bydd y deunyddiau yn cael eu gosod ar borth GCaD Cymru i’w dosbarthu i ysgolion/colegau Cymru.
ng. Bydd cydnabyddiaeth i’r ymarferwyr a’r ysgolion/colegau sydd yn cyfrannu gwaith ar wefan GCaD Cymru.
h. Bydd disgwyl i gyfranwyr gwblhau'r gwaith o fewn yr amser cytunedig.
i. Ni fydd unrhyw daliadau yn cael eu cynnig i ariannu caledwedd, meddalwedd nag unrhyw ddefnyddiau traul eraill.
j. Bydd y derbynnydd yn dod i gytundeb gyda GCaD Cymru er mwyn sicrhau fod pawb yn hollol glir o ran y gofynion a’r disgwyliadau.
l. Os nad yw'r amodau cytunedig yn cael eu cyflawni yna bydd hawl gan GCaD Cymru i leihau'r tal nei i wrthod talu am y gwaith.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â GCaD Cymru ar 029 20265177 neu gyda’r cyfeiriad e-bost yma:info@ngfl-cymru.org.uk
brig y dudalen