Adref > Ynglŷn â GCaD Cymru

Ynglŷn â GCaD Cymru

Cynulleidfa GCaD Cymru
Canllaw Safle
Tîm Prosiect GCaD Cymru
CBAC

GCaD Cymru
Rheolir Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD Cymru) gan CBAC ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Ers Mehefin 1af 2007 bu’n ofynnol i GCaD Cymru ehangu darpariaeth ei llyfrgell adnoddau digidol i gynnwys athrawon a dysgwyr ar bob lefel.  

Mae’n cynnwys ymron i 3,000  o adnoddau addysgol o ansawdd uchel y gellir eu llwytho i lawr ac sydd yn cefnogi’r holl Gyfnodau Allweddol o Flynyddoedd Cynnar hyd at Ôl 16.  Mae llawer o’r adnoddau yn rhyngweithiol, ac oll wedi eu creu gan athrawon.  Mae gofyn  ar GCaD Cymru i:

  • darparu un pwynt cyfeirio at ffynonellau ac adnoddau ledled Cymru a thu hwnt drwy un porth;
  • darparu mynediad rhwydd, am ddim i ysgolion a cholegau yng Nghymru at gynnwys cwricwlwm o ansawdd da mewn amrediad o fformatau digidol;
  • cefnogi addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo’r dimensiwn Cymreig wrth ddysgu ac addysgu;
  • cynorthwyo athrawon yn y dasg o godi safonau dysgu drwy ddefnyddio TGCh wrth ddysgu ac addysgu.

Brig y dudalen

Cynulleidfa GCaD Cymru

Anelir y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gan GCaD Cymru at athrawon mewn Ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig a Cholegau yng Nghymru.  Wrth i gynnwys y porth a’r gwefannau o fewn iddo dyfu, bydd ei berthnasedd yn ymestyn i athrawon dan hyfforddiant, staff ategol awdurdodau lleol, disgyblion a’u rhieni.

Brig y dudalen

Canllaw Safle

Mae gwefan Grid Cenedlaethol Cymru ar gyfer dysgu yn darparu amrediad o wasanaethau dwyieithog i ysgolion yng Nghymru gan gynnwys:

Arfer Da – Prosiect gan gonsortiwm o AALlau Cymru oedd hwn yn wreiddiol, i nodi enghreifftiau o ymarfer da TGCh mewn ystafelloedd dosbarth Cyfnod Allweddol 1 a 2. Arweiniodd hyn at sefydlu gwefan ardderchog dan reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ran consortiwm o AALl. Mabwysiadwydy wefan gan GCaD Cymru lle caiff ei datblygu ymhellach.

Adnoddau Addysgu (Canolfan Athrawon Rithwir Cymru) – Mae Canolfan Athrawon Rithwir Cymru yn ganolog i GCaD Cymru ac yn darparu mynediad at ddeunyddiau dysgu ac addysgu, ac at gysylltiadau â safleoedd cwricwlwm o ansawdd da ar y We.

Cymunedau sy'n Dysgu – Bydd y gangen hon o GCaD Cymru yn darparu adrannau arbennig ar gyfer cyrff addysgol, cymdeithasau, grwpiau athrawon a phroffesiynau addysgol eraill. Lle bo’n briodol bydd y rhain yn cynnwys gwybodaeth fydd ar gael yn gyhoeddus yn ogystal â mannau ar gyfer aelodau’n unig.

Ysgolion yng Nghymru – Dyma gronfa ddata o ysgolion a cholegau o bob math yng Nghymru. Mae’n rhoi gwybodaeth sy’n cynnwys cyfeiriadau e-bost, a bydd yn tyfu i gynnwys gwefannau ysgolion.

Gwlad sy’n Dysgu – Dyma’r canllaw digidol i wefannau yng Nghymru a safleoedd ‘sydd yn cynnwys deunydd gwreiddiol’ cymeradwy y gellir eu defnyddio i ategu dysgu ac addysgu.

Mentrau Cenedlaethol – Rhestr o fentrau sydd yn digwydd ar draws Cymru.

Brig y dudalen

Tîm Prosiect GCaD Cymru
Cyfarwyddwr Prosiect - Dafydd Watcyn Williams
dafydd.williams@gcad-cymru.org.uk

Dirprwy Gyfarwyddwr Prosiect - Ian Morgan
ian.morgan@ngfl-cymru.org.uk

Cynorthwyydd Personol - Sian Williams
sian.williams@ngfl-cymru.org.uk

Rheolwr Porth - Martin Mewis

Tîm Dylunio'r We
Huw Evans, Danielle Griffiths, Hywel Jones, Claire Wright

Dylid e-bostio ymholiadau cyffredinol at info@ngfl-cymru.org.uk

Brig y dudalen

CBAC
Sefydlwyd CBAC, neu Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, fel y'i galwyd tan yn ddiweddar, ym 1948.  Mae'n elusen gofrestredig, yn gwmni a gyfyngir gan warant, ac yn perthyn i 22 awdurdod lleol Cymru. Mae is-gwmni, sef WJEC CBAC Services Ltd, yn darparu gwasanaethau argraffu a chyhoeddi arbenigol.

Yn awr mae CBAC yn darparu gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr, yn cynnwys arholiadau, asesu, datblygiad proffesiynol, adnoddau addysgol a chefnogaeth i oedolion sydd am ddysgu Cymraeg.  Yng Nghymru CBAC sy'n gyfrifol am drefnu a rheoli Celfyddydau Ieuenctid Cymru.

Brig y dudalen

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad