Cymunedau sy'n Dysgu

Cymunedau sy'n Dysgu

Ar hyn o bryd mae'r rhan Cymunedau sy'n Dysgu yn y porth yn darparu fforymau trafod ar lein, sy'n caniatáu i grwpiau addysgol yng Nghymru rannu syniadau, gwybodaeth, sylwadau ac ymarfer gorau.

Os ydych eisoes wedi'ch cofrestru fel aelod, cliciwch ar y cyswllt isod i fewngofnodi;

Fel arall, os ydych chi'n aelod o grwp neu fudiad y teimlo fyddai'n elwa o gael mynediad i fforwm trafodaeth ar lein yna dylech gysylltu â GCaD Cymru i drafod eich gofynion.

Rhagwelir hefyd y gallai GCaD Cymru, fel rhan o ddatblygiadau'r dyfodol, ddarparu:

Gwefannau ar gyfer grwpiau addysgol yng Nghymru, gan gynnwys

  • Cymdeithasau pwnc
  • Grwpiau diddordeb arbennig
  • Grwpiau datblygu'r cwricwlwm
  • Cyrff addysgol gyda chyfansoddiad penodol
  • Darparu gwybodaeth am y grwpiau hyn i gynulleidfa ehangach sydd heb fod yn aelodau

Y bwriad fydd darparu amrediad o gyfleusterau i addysgwyr yng Nghymru a allai gynnwys:

  • Tudalen gartref
  • Adran i aelodau wedi'i gwarchod gan gyfrinair
  • Fforwm trafod a all gynnal trafodaethau agored a chaeëdig
  • Adran adnoddau/dogfennau
  • Tudalennau gwybodaeth a fydd ar gael i bawb

Yn arwyddocaol, gall grwpiau o athrawon ac eraill sy'n gweithio ar baratoi cynnwys i'w roi yn CAR Cymru ei ddefnyddio hefyd.  Dylai mudiadau sy'n dymuno defnyddio'r cyfleuster hwn gysylltu â GCaD Cymru i drafod eu gofynion.

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad