Mentrau Cenedlaethol

Mentrau Cenedlaethol

RhFCRhwydwaith Fideo Cymru (RhFC)

Yn meddwl am fideo-gynadledda? Yna, meddyliwch am Rwydwaith Fideo Cymru (RhFC)!

Canolfan arbenigedd, a sefydlwyd yn 2000, yw RhFC, sydd wedi ymrwymo i fideo-gynadledda ar draws y gymuned addysg yng Nghymru.  Nod Canolfan Gefnogi RhFC yw darparu cyngor ac arweiniad ar arfer gorau ar holl elfennau fideo-gynadledda, yn dechnegol ac yn addysgol, gan ei gwneud yn rhwydd i chi gychwyn ar fideo-gynadledda.

Bwriad yr amrywiaeth gyflawn o wasanaethau sy'n cael eu cynnig yw rhesymoli'r maes technegol hwn sy'n edrych yn gymhleth fel y gall ysgolion ac Awdurdodau Unedol ddarparu fideo-gynadledda o safon, gan osgoi'r peryglon ac unrhyw gur pen wrth fynd ati.  Bydd Canolfan Gefnogi RhFC wedyn yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth hyfforddi a chefnogi'r rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio'r dechnoleg er mwyn manteisio'n llawn arni ac i gadw eich offer yn gweithredu'n llawn.

Mae'r RhFC yn wasanaeth nad yw'n gwneud elw a weithredir gan y gymuned addysg er lles y gymuned honno ac fe'i rheolir gan JANET(UK). Er nad yw RhFC yn gwerthu offer fideo-gynadledda, mae cytundeb fframwaith DU yn weithredol gyda chyflenwr enwebedig a allai wneud y broses gaffael yn rhwyddach a helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian.

Am fanylion pellach am RhFC, cysylltwch â Chanolfan Gefnogi RhFC ar 01792 295700 neu anfonwch e-bost at cefnogaeth@rhfc.ac.uk. Mae gwefan RhFC i'w chael yn www.rhfc.ac.uk

Y Gynhadledd Addysgeg Genedlaethol 2008

Logo for School Councils Wales / Cynghorau Ysgol CymruCynghorau Ysgol Cymru
Y mae gwefan Cynghorau Ysgol Cymru yn adnodd dwyieithog cyffrous ar gyfer disgyblion, athrawon a llywodraethwyr yng Nghymru, yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau hyfforddi ac enghreifftiau arfer dda yn cynorthwyo disgyblion i gyfranogi'n llawn mewn penderfyniadau sydd yn effeithio arnynt mewn ysgolion yng Nghymru.

Gwerthuso’r Gronfa Ysgolion Gwell
Canllawiau a gwybodaeth ar gyfer cynllunio, rheoli a gwerthuso’r Gronfa Ysgolion Gwell yn effeithiol

Microsoft Digital Literacy
Llythrennedd Digidol Microsoft - Nod Llythrennedd Digidol yw dysgu ac asesu cysyniadau a sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, fel y gall pobl ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol yn eu bywydau bob dydd i ddatblygu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd newydd iddynt eu hunain, i'w teuluoedd, ac i'w cymunedau.

Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
LCC / WAG
Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion

Mae’r adroddiad interim hwn yn amlinellu’r casgliadau y daethpwyd iddynt hyd yma gan y gweithgor a sefydlwyd ym mis Mai 2006 i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion.

Document Gweddnewid Ysgolion gyda TGCh:Adroddiad y Gweithgor Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion i Lywodraeth Cynulliad Cymru

Document Dogfen Ymbaratoi

Document Atodiad 3-4

Document Transforming Schools with ICT - Good Practice - Case Studies

Fframwaith Hunan-adolygu TGCh

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn noddi gwerthusiad o fframwaith hunan-adolygu TGCh (SRF) a Marc TGCh Becta.  Pwrpas y peilot hwn yw gwerthuso'r fframwaith ac i benderfynu a yw'n addas i'w ddefnyddio yng Nghymru.  Isod rhoddir cysylltau â thaflenni canllawiau cyffredinol, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Becta, a deunyddiau eraill i gefnogi staff.

Document ICT Mark Self-Review Framework (English)

Document ICT Mark Self-Review Framework (Cymraeg)

Document Element 1 - Leadership and Management

Document Element 2 - Curriculum

Document Element 3 - Learning and Teaching

Document Element 4 - Assessment

Document Element 5 - Professional Development

Document Element 6 - Extending opportunities for learning

Document Element 7 - Resources

Document Element 8 - Impact on pupil outcomes

Band Eang - yr iaith newydd mewn addysg

LCC / WAG
Erbyn hyn, bydd band eang gan y rhan fwyaf ohonoch yn yr ysgol a byddwch yn ymwybodol o’r manteision sy’n dod i’ch ysgol, i’ch cydweithwyr a’ch disgyblion yn ei sgîl. Rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo bod y pecyn hwn o gymorth i sicrhau’r holl fanteision sy’n deillio o fand eang a’r Rhyngrwyd drwy’r ysgol.

Datblygwyd y Pecyn Ysgol hwn, ar ôl ymgynghori â nifer o ymgynghorwyr TGCh ac athrawon yng Nghymru, i gynnig cefnogaeth ac i awgrymu ffyrdd o hybu’r gwaith o fwyafu manteision band eang yn yr ysgol. Pan fydd athrawon yn defnyddio band eang hyd eithaf ei botensial, mae’r plant yn cael eu hysgogi a’u llenwi â brwdfrydedd tuag at ddysgu yn yr ysgol ac yn y cartref, ac yn cael gafael ar y sgiliau ar gyfer hynny.

Mae'r cysylltau canlynol yn darparu gwybodaeth i athrawon (o ran mathemateg, gwyddoniaeth, daearyddiaeth, hanes, celf, cerddoriaeth, AG, AC a dylunio a thechnoleg), Cydlynwyr TGCh a rhieni. Gobeithir y byddant yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech gael copïau ychwanegol o'r Pecynnau Ysgol neu am ddarganfod rhagor am fand eang yng Nghymru, cysylltwch â'r rhaglen Band Eang Cymru yn broadband@wales.gsi.gov.uk neu ymwelwch â www.bandeang.cymru.gov.uk/index_bb.asp

continYou
Darllenwch am ContinYou yma.

Mae’r pecyn yn cynnwys:

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol - The Basic Skills Agencyyw’r asiantaeth genedlaethol i sgiliau sylfaenol yng Nghymru a Lloegr ac fe’i cyllidir gan y Llywodraeth.

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol sy’n gyfrifol am arolygu gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol yng Nghymru.

Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru - neu'r Bac Cymreig - yn gymhwyster newydd sbon, sy'n cydnabod bron popeth mae pobl ifanc yn ei wneud yn yr ysgol neu'r coleg. Mae'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig presennol fel Safon Uwch, TGAU a NVQ, ac yn ychwanegu ehangder a chydbwysedd drwy raglen o weithgareddau Craidd. Mae'n caniatàu i fyfyrwyr ddatblygu a chynyddu eu sgiliau allweddol yn unol â'u galluoedd a'u diddordebau. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud mwy o gynnydd, trwy gynnig gwahanol gyfleoedd a phrofiadau dysgu. O ganlyniad byddant wedi eu paratoi'n well ar gyfer addysg bellach ac uwch a'r byd gwaith

Menter Addysgeg Genedlaethol - Nod  y fenter addysgeg yw gwella'r canlyniadau i ddysgwyr drwy wella sgiliau, gwybodaeth ac arferion addysgeg yr ymarferwyr.

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad