Croeso i rifyn cyntaf ein cylchlythyr tymhorol sef GCaDolen. (darllenwch mwy)
Mae GCaD Cymru yn bwriadu darparu ‘gweithgaredd cychwynnol dyddiol’ rhyngweithiol ar gyfer Mathemateg CA3 ar y wefan. (darllenwch mwy)
Er mai gwirfoddol ydi’r angen i gofrestru, bydd gwneud hynny yn caniatáu ichi ddefnyddio gwasanaethau ychwanegol megis y gallu i bersonoli eich mynediad at y wefan. (darllenwch mwy)
Mae pob un o’r 22 Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru’n bartneriaid Data Cwricwlwm Cymru
Cefnogwyd datblygiad y cysyniad o Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu gan yr Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru drwy gydol y gwaith o baratoi tendr ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Unwaith y bydd y prosiect yn weithredol, rhagwelir y bydd cefnogaeth ymarferol yn amrywio o ardal i ardal ac y bydd ei natur yn newid wrth i’r prosiect ddatblygu. Mae’r gefnogaeth yn debygol o gynnwys:
- Trosglwyddo cynnwys TGCh a ariennir gan grantiau cynnal addysg a hyfforddiant i GCaD Cymru
- Cydweithio ar addasu’r cynnwys presennol cyn trosglwyddo i GCaD Cymru
- Cysylltu deunydd priodol sydd wedi’i gynnwys ym mewnrwydi AALlau â GCaD Cymru·
- Secondio athrawon·
- Cynghori ar anghenion athrawon o ran cynnwys
- Nodi ymarfer da mewn TGCh·
- Pennu athrawon ac ysgolion i’w cefnogi gan y Gronfa Ysgolion Blaengar i gynhyrchu deunyddiau dysgu ac addysgu newydd.
Mae cysylltiadau â gwefannau AALl i’w cael yn Y Wlad sy'n Dysgu.