Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i recriwtio un secondai neu fwy i’r Tîm Strategaeth TGCh yn yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. (darllenwch mwy)
Croeso i rifyn cyntaf ein cylchlythyr tymhorol sef GCaDolen. (darllenwch mwy)
Mae GCaD Cymru yn bwriadu darparu ‘gweithgaredd cychwynnol dyddiol’ rhyngweithiol ar gyfer Mathemateg CA3 ar y wefan. (darllenwch mwy)
Er mai gwirfoddol ydi’r angen i gofrestru, bydd gwneud hynny yn caniatáu ichi ddefnyddio gwasanaethau ychwanegol megis y gallu i bersonoli eich mynediad at y wefan. (darllenwch mwy)
Mae Learnthings yn bartner Data Cwricwlwm Cymru
Bydd yn darparu’r canlynol i GCaD Cymru:
- Cynnwys cwricwlwm ac adnoddau addysg newydd a gomisiynir ar ran GCaD Cymru.
- Cynnwys sydd ar gael ar hyn o bryd o’i wasanaeth ar-lein learnpremium gan gynnwys cynlluniau gwersi, adnoddau dysgu ac addysgu, a gwersi bwrdd gwyn.
- Arbenigedd mewn cyhoeddi addysgol digidol.
Learnthings yw’r prif ddarparwr deunyddiau e-ddysgu rhyngweithiol o safon i fyfyrwyr oed ysgol a’u hathrawon. Lansiwyd learnthings ym Mai 2000 gyda chefnogaeth y Guardian, un o sefydliadau cyfryngol mwyaf y Deyrnas Unedig.
Mae Learnthings ar hyn o bryd yn cynnig dwy elfen e-ddysgu sydd wedi ennill gwobrau: learnpremium, gwasanaeth e-ddysgu ar danysgrifiad i ysgolion, a learn.co.uk, gwefan rad ac am ddim i rieni a myfyrwyr.
Mae gan y cwmni raglen uchelgeisiol o gyhoeddi cynnwys sy’n anelu at ddarpariaeth gynhwysfawr o’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’r cynnwys hwn ar ffurf gwersi a phrofion ar-lein, gyda adnoddau ychwanegol helaeth megis prosiectau, gwasanaeth newyddion dyddiol a deunyddiau sydd yn manteisio ar archif enfawr papurau newydd y Guardian a’r Observer.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar http://www.learnthings.com
Ceir manylion gwasanaeth learnpremium ar http://www.learnpremium.co.uk .