Adref > Cymorth > Mynd o le i le ar GCaD Cymru.

Mynd o le i le ar GCaD Cymru.

Cysylltau oddi mewn i GCaD Cymru
Cysylltau testun – wrth symud eich llygoden dros y rhain, bydd llinell yn ymddangos o dan y geiriau a bydd y cyrchwr yn newid i law.
Cysylltau delwedd - wrth symud eich llygoden dros y rhain, bydd y cyrchwr yn newid i law.

Fel arfer bydd cyswllt testun i’w canfod gyda phob cyswllt delwedd.

Llywio cyffredinol
Mae cysylltau at bob adran yn GCaD Cymru i’w canfod yng nghornel uchaf ymyl chwith y dudalen a bydd y rhain i’w gweld ar y sgrin yn barhaol tra byddwch yn defnyddio’r wefan.  Mae lliw penodol ar gyfer pob adran sydd yn gymorth i wybod lle yn union yr ydych wedi cyrraedd.

Wrth glicio ar yr adrannau hyn mae’r ddewislen yn newid ac yn dangos y prif benawdau o fewn yr adran.  Mae'r rhain yn gweithredu fel cysylltau at yr adrannau perthnasol.

Er mwyn dangos eich lleoliad o fewn y wefan, bydd y llwybr a gymerwyd i’w gweld ar ben y dudalen. Mae’r llwybr yma yn gyfres o gysylltau sydd yn caniatáu ichi ailymweld ag unrhyw dudalen ar hyd y daith.

Nodweddion eraill:
Chwiliad: Teipiwch air i mewn i’r blwch a chliciwch ar 'Chwilio' i gyrchu rhestr o wefannau perthnasol.
Newydd i’r safle: Cyhoeddiadau a rhestr o adnoddau newydd sydd wedi eu gosod ar y safle.
Cysylltwch â ni: Cysylltwch â GCaD Cymru gyda ffôn, e-bost neu lythyr.
Ffurflen Adborth: Cyfle i gynnig adborth am y safle.

Map o’r safle: Arweiniad at brif adrannau’r safle.

Yng nghornel uchaf ymyl dde'r dudalen mae dau gyswllt arall:

Cyrchu Rhwydd: Wrth glicio yma bydd y delweddau ar y safle yn cael eu hepgor gan adael y testun yn unig.

Cymraeg / English: Gellir newid iaith ar unrhyw adeg yn ystod eich ymweliad ar wefan.

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad